5. & 6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:40, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Hoffwn agor fy nghyfraniad y prynhawn yma trwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor a'n tîm clercio, ond hefyd trwy bwysleisio mai un o'r cwestiynau allweddol y mae fy mhwyllgor yn ei ystyried yw, a yw Bil yn addas i'r diben fel darn o gyfraith. Fel rheol gyffredinol, nid ydym yn gwneud sylw ar rinweddau'r polisi y mae'n ei gynnwys.

Dywedodd y Gweinidog wrthym ni mai Bil fframwaith yw'r Bil, gyda'r nod o fod yn ei le am sawl degawd. O ganlyniad, pwysleisiodd y Gweinidog yr angen am ddiogelu'r dyfodol a hyblygrwydd. Ond mae ein hadroddiad yn cynnwys cymaint o argymhellion—44 i gyd, oherwydd bod y Bil yn Fil fframwaith neu Fil galluogi. Mae'n adlewyrchiad yn rhannol o'n pryder ynghylch faint o bŵer y mae'n ei ddarparu i Weinidogion Cymru ar draul y ddeddfwrfa hon. Mae ein hadroddiad yn dangos nad ein pwyllgor ni yn unig sydd â phryderon am ddefnyddio Biliau fframwaith—mae ein pwyllgorau rhagflaenol a'n pwyllgorau sydd wedi hen ennill eu plwyf yn Nhŷ'r Arglwyddi yn mynegi'r un pryderon.

O'r pwys mwyaf pan ofynnir i ddeddfwrfa ddirprwyo pwerau i'r pwyllgor gwaith yw ystyried sut y gellid defnyddio'r pwerau hynny yn y dyfodol, yn hytrach na sut mae'r Gweinidog presennol yn bwriadu eu defnyddio ar adeg eu llunio. Felly, ni waeth beth yw'r geiriau ar gof a chadw a bwriad y Gweinidog hwn. Os caiff ei basio bydd y Bil yn dirprwyo pwerau eang i unrhyw Lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol. Gallai'r pwerau gael eu defnyddio i ddatblygu polisi sylweddol ar amaethyddiaeth, gyda mewnbwn democrataidd a grymoedd penderfynu cyfyngedig iawn gan y Senedd fel y ddeddfwrfa. Dyna yw swyddogaeth y Bil hwn fel y'i hysgrifennwyd ar hyn o bryd; gellir ei ddiwygio. Bydd Gweinidogion Cymru yn y dyfodol yn gallu osgoi craffu manwl gan y Senedd ar yr hyn a allai fod yn benderfyniadau polisi sylweddol a dwys ar amaethyddiaeth, o bosibl ar gyfer, ac rwy'n ei ailadrodd, degawdau.

Rydym o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi cael y cyfle i ddrafftio Bil a allai fod wedi cynnwys mwy o fanylion ar ei wyneb. Byddai'r manylion wedi cynnwys y dibenion perthnasol, yr egwyddorion a'r meini prawf sy'n sail i bolisi amaethyddol yng Nghymru a fydd yn disodli'r darpariaethau a'r pwerau sy'n cael eu dychwelyd o'r Undeb Ewropeaidd, nid lleiaf ers i'r etholwyr benderfynu gadael yr UE yn 2016. Mewn ymgais i wella'r Bil, felly, mae 11 o'n hargymhellion yn gofyn am roi mwy o wybodaeth ar ei wyneb, yn enwedig ar fanylion polisi a materion sy'n ymwneud ag arfer pwerau gwneud rheoliadau. Yn ogystal, mae 15 o argymhellion eraill yn gofyn am esboniadau ar gyfer y dull a fabwysiadwyd yn y Bil. Maen nhw wirioneddol yn ceisio gwella'r Bil.

Yn absenoldeb unrhyw ddarpariaeth machlud—rwy'n cyfeirio'n benodol at hynny—er mwyn sicrhau trosglwyddo i system newydd o gefnogaeth amaethyddol, gellid gwneud newidiadau, fel y mae yn y Bil hwn ar hyn o bryd, ar sail amhenodol i'r system bresennol, sy'n rhoi sicrwydd i neb. Rydym yn derbyn mai bwriad y Gweinidog hwn yw trosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy a system newydd o gefnogaeth. Ond, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, nid yw'r Bil yn gosod unrhyw rwymedigaeth ar y Llywodraeth hon nac ar unrhyw un yn y dyfodol i wneud hynny mewn gwirionedd erbyn unrhyw ddyddiad penodol. Rydym ni felly wedi argymell y byddai'n briodol cynnwys darpariaeth machlud yn y Bil i ddarparu'r sicrwydd hwnnw—dyddiad gorffen ar gyfer pontio o'r cynllun talu sylfaenol a'r polisi amaethyddol cyffredin. Os cynhwysir darpariaeth i ganiatáu diwygio dyddiad terfynol gan reoliadau, dylai rheoliadau o'r fath yna fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol wrth gwrs.

Rydym ni'n nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi efelychu cyfyngiadau ar arfer rhai pwerau gwneud rheoliadau—felly, er enghraifft, o dan adrannau 15, 16 a 22 o'r Bil—a gawsant eu cynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020. Mae hyn yn golygu, fel y mae ar hyn o bryd, bod Deddf 2020—deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU—yn rhoi mwy o reolaeth i'r Senedd hon dros arfer pwerau Gweinidogion Cymru na'r Bil sydd ger ein bron heddiw. Felly, nod naw o'n hargymhellion oedd mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Credwn fod y rhain yn synhwyrol.

Mae pump o'n hargymhellion yn ymwneud â'r gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth wneud rheoliadau, ac mae pedwar argymhelliad pellach yn galw am ddiwygio 12 adran yn y Bil i gynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori cyn gwneud rheoliadau, gan fod hwn yn Fil fframwaith o'r fath. Mae hyn yn bwysig oherwydd, mewn cyfres ddiweddar o reoliadau benthyciadau myfyrwyr, er enghraifft, ni ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru cyn gwneud y rheoliadau oherwydd nad oedd gofyniad statudol i wneud hynny. Efallai y bu yn bolisi da neu ddrwg, ond doedd dim dyletswydd i ymgynghori.

Hoffwn yn awr gwmpasu dau argymhelliad penodol byr cyn cloi. Argymhellwyd y dylid diwygio'r Bil i gynnwys diffiniad o 'reoli tir cynaliadwy'. Ym marn y pwyllgor, nid yw'n briodol ceisio diffinio term yn ddigonol drwy gyfres o amcanion, y gellir eu cyflawni neu beidio ac y gellir eu cydbwyso neu eu cyfnewid â'i gilydd. Nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen mewn cyfraith dda.

Mae adran 50 o'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio'r diffiniadau o amaethyddiaeth a gweithgareddau ategol—diffiniadau sy'n mynd at wraidd y Bil. Dyma bŵer eithriadol o eang a allai newid natur a chyrhaeddiad y Bil hwn yn sylfaenol. Felly, yn ogystal â cheisio eglurder ynghylch pam yr hawlir y pŵer hwn, fe wnaethon ni argymell, os yw'r Gweinidog yn cadw adran 50, y dylai gweithdrefn uwch-gadarnhau fod yn berthnasol i'r pŵer rheoleiddio.

Felly, dim ond i gloi, Llywydd, daethom i'r casgliad nad yw'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, yn y fframwaith eang hwn sydd ganddo, mewn gwirionedd yn darparu dull synhwyrol a chyfansoddiadol briodol o ddeddfwriaeth a bod ganddo rai diffygion sylweddol. Ond gellir gwella'r rhain wrth basio'r Bil, felly, er budd llunio cyfraith gadarn, gobeithiwn fod y Gweinidog, sydd wedi cynnig ysgrifennu atom yn fanwl ar ein hargymhellion, yn gwrando ar y pryderon hynny, sy'n argymhellion synhwyrol, ac yn gallu mynd i'r afael â hyn yn gadarnhaol wrth i'r Bil fynd rhagddo. Diolch yn fawr iawn.