Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 7 Chwefror 2023.
Sy'n dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais. Ac mae'r pleidleisiau y prynhawn yma ar y ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24. A gwelliant 1 fydd yn cael ei gymryd gyntaf, felly dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.