Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch, Janet. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £293 miliwn mewn lleihau perygl llifogydd i gymunedau arfordirol ledled Cymru drwy ein rhaglen rheoli risgiau arfordirol. Bydd hyn yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 15,000 eiddo, ac mae’n cynnwys, er enghraifft, mwy na £19 miliwn o fuddsoddiad yn Aberconwy. Mae map rhyngweithiol yn dangos ein buddsoddiad wedi'i gyhoeddi ar-lein.