Costau Trafnidiaeth Gyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:30, 8 Chwefror 2023

Mae'n dda clywed bod yna gynlluniau ar y gweill, ac, wrth gwrs, mae angen eu hymestyn nhw a dod â chynlluniau newydd ymlaen hefyd. Ond yn rhannau gwledig fy etholaeth i, nid cost teithio ar fysus ydy'r unig broblem. Mae yna brinder bysus yn y lle cyntaf, gyda rhai cymunedau heb ffordd o deithio o gwbl ar adegau, gan nad oes yna ddim trenau, metro, llwybrau seiclo addas, nac ychwaith wasanaeth bysus ar rai adegau o'r dydd. Mae Yr Orsaf ym Mhenygroes yn datblygu prosiect i gefnogi trigolion, gan gynnwys pobl ifanc, sy'n wynebu rhwystrau oherwydd diffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn nyffryn Nantlle, a hynny efo cefnogaeth partneriaeth trafnidiaeth gymunedol dyffryn Nantlle. Ydy trafnidiaeth gymunedol yn faes yr ydych chi fel Dirprwy Weinidog am ei weld yn datblygu i'r dyfodol, ac felly, os ydy hyn yn flaenoriaeth gennych chi, faint o gyllid sydd wedi ei glustnodi ar gyfer annog y math yma o drafnidiaeth yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?