Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Chwefror 2023.
Ydw, Janet, rwy'n ymwybodol iawn o ddatganiadau amrywiol Michael Gove. Cyfarfûm yn ddiweddar iawn â’r Gweinidog tai ar y pryd, sydd bellach yn Weinidog dros ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon, rwy’n credu—mae’n anodd dal i fyny—i siarad am hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Michael Gove hefyd, ond nid wyf wedi cael un ers ei ailymgnawdoliad.
Mae'r rhaglen yma bron yn union yr un fath ym mhob agwedd rydych newydd ei nodi. Rydym wedi gweithio gyda’r 11 datblygwr mawr yng Nghymru. Mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i'r cytundeb. Mae'r ddogfennaeth gyfreithiol ganddynt ar hyn o bryd. Yn amlwg, maent yn edrych i weld beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r ddogfennaeth gyfreithiol yno. Mae ein dogfennaeth yn wahanol am fod y fframwaith cyfreithiol yng Nghymru yn wahanol, ond serch hynny, mae'r pwyslais yr un fath. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rydym yn mynd ychydig yn gyflymach na hynny. Mae gennym ddau o'r datblygwyr mawr eisoes yn dechrau ar y gwaith cyweirio. Rydym wedi mynd ymhell iawn gyda'n rhaglen o arolygon. Dim ond ychydig o adeiladau sydd gennym ar ôl. Mae’r rheini sydd ar ôl nad ydynt wedi’u cwblhau ar gyfer yr arolwg ymwthiol llawn i gyd oherwydd bod angen set gymhleth o gytundebau gan rydd-ddeiliaid amrywiol ac yn y blaen, ac nid wyf am fanylu ar hynny, ond ceir materion rheoli cymhleth mewn perthynas â rhai o'r adeiladau. Mae'r lleill yn ymwneud â lle bu'n rhaid cau prif ffordd gyfan er mwyn cael mynediad i'r adeilad i wneud y gwaith, ac rydym wedi gorfod gweithio gyda'r cyngor lleol i lunio cynllun rheoli traffig i allu gwneud hynny. Heblaw am hynny, maent i gyd wedi'u cwblhau. Mae'r adroddiadau i gyd yn yr arfaeth. Byddwn yn gallu dechrau ar y gwaith cyweirio cyn gynted ag y gallwn.
Rydym hefyd yn gweithio ar raglen ar gyfer yr hyn a elwir yn adeiladau amddifad. Hyd y gwn i, nid oes rhaglen fel hon yn Lloegr. Mae gennym 16 i 23 o adeiladau amddifad—mae'n dibynnu i raddau ar yr hyn rydych yn ei alw. Adeilad amddifad yw un lle nad oes yswiriwr, asiant rheoli neu ddatblygwr cyfrifol y gellir eu dwyn i gyfrif, a byddwn yn gallu bwrw ymlaen â rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith cyweirio arnynt.
Ond credaf mai dyma’r pwynt pwysicaf yma: rwyf bob amser wedi bod o'r farn y dylai’r Llywodraeth ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn hyn o beth. Nid ydym am i lesddeiliaid unigol orfod cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y datblygwyr, sef yr hyn y mae Deddf adeiladau Lloegr yn ei wneud. Rwy’n deall pam y gwnaethant hynny, ond nid ydym yn credu bod hynny’n iawn. Felly, bydd gennym y contract yma, ac os na chedwir ato, ein cyfrifoldeb ni fydd cymryd camau yn erbyn y datblygwyr. Dyna fel y dylai fod, yn fy marn i. Byddaf hefyd yn archwilio i weld a allwn, er enghraifft, atal adeiladwyr rhag ymgymryd â safleoedd lle mae caniatâd cynllunio yn bodoli eisoes a pharhau â'r gwaith. Dyna ail gam y gwaith. Ond rwy'n eithaf balch fod datblygwyr yma wedi dod ar y daith hon gyda ni.
Ac yna y peth olaf a ddywedaf ar y pwynt hwn, ac mae'n werth cadw hyn mewn cof, yw bod rhai o'r adeiladau, rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf yn yr ymgyrch—a phwy all eu beio am gael ymgyrch; mae'n beth erchyll i fyw gydag ef—mae rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf mewn adeiladau lle ceir ymgyfreitha helaeth eisoes ar y gweill, ac ni allwn ymyrryd â'r achosion hynny. Felly, rydym wedi ein rhwystro gan rai o'r prosesau sy'n mynd rhagddynt. Ond rwy'n dal i gydymdeimlo'n llwyr â'r bobl sy'n byw gyda hyn. A'r peth olaf yr hoffwn ei ddweud wrthych, Janet, yw os ydych yn adnabod unrhyw un sydd mewn sefyllfa enbyd oherwydd hyn, a fyddech cystal ag argymell y cynllun prynu allan iddynt, gan nad ydym wedi cael cymaint o ddiddordeb ynddo ag y byddem wedi hoffi, ac rwy'n gobeithio sicrhau cymaint o gyhoeddusrwydd iddo â phosibl.