Diogelwch Adeiladau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:01, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Cefais fy siomi wrth glywed eich ateb i fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders eich bod eto i dderbyn ymateb i'ch cais i gyfarfod â Michael Gove. Gobeithio y bydd yn ymateb i chi yn fuan iawn. Weinidog, darllenais eich erthygl yn Welsh Housing Quarterly, ac yn honno rydych yn nodi camau pellach ar ddiogelwch adeiladau. Roeddwn yn falch o weld bod rhywfaint o waith cyweirio wedi digwydd gydag o leiaf ddau ddatblygwr. Pryd rydych chi'n disgwyl i'r datblygwyr eraill—11 i gyd—ddechrau'r gwaith cyweirio, a faint o ddatblygwyr sydd eto i ymgysylltu neu wedi gwrthod ymrwymo i'r cytundeb? Diolch yn fawr.