Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 8 Chwefror 2023.
Felly, mae'n rhaglen amlochrog yn y bôn, ac felly, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw graddnodi'r gyllideb hyd at y pwynt lle rydym yn gwneud y gwaith cyweirio. Felly, fe welwch ein bod yn gwario llai ar ddechrau'r rhaglen gan ein bod yn cynnal arolygon. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith cyweirio. Rydym yn amlwg wedi gwneud gwaith cyweirio ar adeiladau cymdeithasol sy'n bodloni'r meini prawf, er enghraifft. Rydym ar fin dechrau'r gwaith cyweirio y soniais amdano ar adeiladau amddifad. Bydd rhai o'r adeiladau sy'n eiddo i'r sector preifat yn cael eu cyweirio. Ond mae'n amlwg y bydd y rhaglen hon yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd—pedair neu bum mlynedd, yn gyffredinol, ar gyfer rhaglen gyfalaf o'r fath. Felly, mae angen ichi edrych ar y gyllideb yn ei chyfanrwydd.