Caniatâd Cynllunio

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:10, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthdroi penderfyniad cyngor Caerffili i wrthod cais i godi 260 o gartrefi yn Hendredenni. Gwrthwynebwyd y cais gan drigolion, cynrychiolwyr ward, yr Aelod o'r Senedd a'r Aelod Seneddol lleol, ond eto fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiystyru'r consensws lleol. Yn y llythyr penderfynu, fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd argymell amod y dylai'r cynllun gynnwys nodweddion draenio strategol a chynllun ar gyfer gwaredu dŵr wyneb a llif draenio tir, gan roi'r cyfrifoldeb am gymeradwyo'r cynlluniau ar y cyngor. Ond chwe blynedd yn ddiweddarach, mae gennym CNC yn ymchwilio i adroddiadau fod dŵr ffo yn llygru tir preswylydd lleol, gydag ofnau y gallai hyn hefyd fod wedi effeithio ar afon gyfagos, Nant yr Aber. Yn ogystal, mae ofnau am anhrefn traffig wedi'u gwireddu, ac mae pryderon am allu gwasanaethau lleol i ddarparu ar gyfer cannoedd o drigolion newydd yn parhau. Rwy'n gwybod na fyddwch yn gallu gwneud sylw ar achos unigol, Weinidog, ond a gaf fi ofyn a ydych yn deall rhwystredigaeth pobl leol pan fydd cynlluniau fel hyn yn cael eu gorfodi arnynt yn erbyn eu dymuniadau? Pa newidiadau y credwch chi y gellid eu gwneud i'r system gynllunio er mwyn rhoi pŵer i gymunedau wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy heb ofni y cânt eu diystyru gan Gaerdydd?