Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 8 Chwefror 2023.
Prynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn flin eich bod wedi cael eich trolio ar y cyfryngau cymdeithasol; mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac mae'n ddrwg gennyf glywed hynny. Roeddwn eisiau gofyn dau gwestiwn byr iawn, un yn sgil eich ymateb i Janet Finch-Saunders. Roedd yn dda clywed am y cynllun prynu allan. Fe ddywedoch chi na wneir defnydd ohono mewn gwirionedd, felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: tybed beth yw'r broses gyfathrebu, sut rydych chi'n ei hysbysebu. Ac mae'r ail yn rhywbeth, unwaith eto, y gwnaethoch chi gyffwrdd ag ef: a oes cytundeb ar waith i ymgysylltu â datblygwyr sy'n mynd â lesddeiliaid i'r llys? Rydym i gyd yn gwybod bod hynny'n straen enfawr ar bobl sydd wedi cymryd camau efallai yn gynnar yn y broses i geisio cael gwaith cyweirio wedi'i wneud. Diolch yn fawr iawn.