Diogelwch Adeiladau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:09, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n meddwl eich bod wedi gweld faint o broblem yw hyn i nifer iawn ohonom sy'n cynrychioli etholaethau. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae gennyf ddau adeilad uchel iawn yn Nwyrain Abertawe, Altamar a Chei'r De. Yn wir, mae'n bosibl fod y Gweinidog yn gyrru heibio iddynt ar ei ffordd i mewn ambell fore. Mae preswylwyr yn y blociau hynny wedi mynegi pryder difrifol wrthyf. Yn Altamar, maent yn pryderu bod Bellway yn gwrthod cyfarfod â hwy. Credant y byddai gweithredu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn sicrhau bod camau'n cael eu rhoi ar waith. Pam na wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chaniatáu i'r ddeddfwriaeth gael ei defnyddio yng Nghymru?