Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 8 Chwefror 2023.
Wel, mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau ariannol sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Awdurdodau lleol, wrth gwrs, sydd i benderfynu ar gyllidebau ysgolion. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i weithio gyda'u hysgolion, fel y mae llawer yn ei wneud, i gynnig mesurau rhesymol ar gyfer arbed costau lle bo hynny'n briodol.