Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 8 Chwefror 2023.
Pan wnaethom ymweld â Llangynwyd, aethom i'r wers gelf a oedd yn cael ei chynnal a'r hyn a wnaeth fy nharo gyda'r cwricwlwm newydd oedd eu bod yn defnyddio'r sesiwn gelf honno i ddatblygu materion yn ymwneud â hunaniaeth, iechyd meddwl, yn ogystal â dysgu sgiliau celf da iawn. Ac yna roeddent yn ymgorffori hynny i agweddau eraill ar y cwricwlwm a gâi eu dysgu mewn gwersi eraill. Rwy'n credu ei fod yn agoriad llygad o ran y ffordd roedd yr ysgol wedi ymroi i'r cwricwlwm newydd. Felly, yn rhannol i ateb cwestiwn Sam, ond hefyd yn rhannol i ofyn am eich barn ar hynny, sut rydym yn sicrhau'r ymarfer gorau wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, a'i integreiddio â hyblygrwydd o'r fath ar draws yr ysgol, yn union fel roeddent yn ei wneud yn Llangynwyd?