Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch am eich cwestiynau, Mark Isherwood, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cefnogi fy ngalwad am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Wrth gwrs, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ac rwyf wedi cael ymateb gan y Gweinidog ynni. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n glir iawn yw bod yn rhaid inni gydnabod maint y broblem: mae 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan; mae 15 y cant o'n holl aelwydydd, 24 y cant o denantiaid yn y sector rhentu preifat, a bron i hanner y tenantiaid tai cymdeithasol yn defnyddio mesuryddion rhagdalu, a hwy sydd ar yr incwm isaf. Rydym yn sôn am y bobl fwyaf agored i niwed.
Yr hyn a ddywedais wrth Lywodraeth y DU yw ein bod yn falch o weld cyflenwyr ynni yn rhoi'r gorau i'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, ond beth a gymerodd i wneud hynny? Cymerodd ymchwiliad The Times, a gwleidyddion fel Jack Sargeant, ac yn wir, Ed Miliband, byddwn yn dweud, i ddatgelu'r hyn a oedd yn digwydd. Ni weithiodd camau gorfodi. Nid yw Llywodraeth y DU yn gweithredu digon i edrych ar y ddeddfwriaeth newydd y bydd angen ei chyflwyno yn ôl pob tebyg. Nid oes digon o fesurau diogelu ar waith gan Ofgem. Dywedais wrth Ofgem, 'Fe wnawn eich cefnogi os oes angen mwy o bwerau rheoleiddio arnoch; mae angen inni eich cefnogi i wneud hyn.'
Mae'n rhaid inni aros am ganlyniad yr ymchwiliad i Nwy Prydain. Rwyf wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni ar sawl achlysur. Maent wedi rhoi sicrwydd i mi ynglŷn â'r ffordd y maent yn trin ac yn cefnogi cwsmeriaid agored i niwed. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn derbyn rhywfaint o'r sicrwydd y maent wedi'i roi i mi pan glywn am eu defnydd o'r asiantaethau casglu dyledion diegwyddor hyn yn enwedig. Rwyf yn cyfarfod â’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yr wythnos nesaf, a byddaf yn gallu adrodd yn ôl ar hynny, gan fod angen inni edrych ar eu gwaith. Roeddwn yn falch fod Peredur wedi codi hynny ddoe ynglŷn â'u defnydd ac o ran edrych ar sut mae asiantau gorfodi achrededig yn allweddol i hyn. Byddaf yn sicr yn ymateb i’r Senedd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn.