Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 8 Chwefror 2023.
Mae'r cysylltiad rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol yn glir wrth gwrs. Mae cyfnodau parhaus o absenoldeb o'r ysgol yn creu risg wirioneddol i gyrhaeddiad plentyn, a gall hefyd arwain at wneud iddynt deimlo'n fwy datgysylltiedig o'u haddysg. Mae monitro canlyniadau addysgol a'r cysylltiadau â chyfraddau presenoldeb yn ystyriaethau hanfodol fel rhan o ddatblygu'r ecosystem ddata newydd. Yn syml, bydd yr ecosystem yn sicrhau bod gan ysgolion yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gefnogi dysgu a gwella canlyniadau ac i allu cysylltu cwestiynau ynghylch presenoldeb â chwestiynau ynghylch canlyniadau.
Rydym yn gwybod bod ysgolion yn darparu cymaint mwy nag addysg. I rai plant, mae'r ysgol yn hafan, yn rhywle lle maent yn teimlo'n ddiogel, lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u clywed. Mae'r ysgol yn rhoi cyfle i blant weld gwerthoedd cadarnhaol ar waith, man lle mae bondiau a chyfeillgarwch sy'n gallu para am oes yn cael eu creu, yn ogystal â lle i ddatblygu'r sgiliau cymdeithasol y gwyddom eu bod mor bwysig. Ni all ysgolion wneud hyn ar eu pen eu hunain wrth gwrs. Mae llwyddiant yn ddibynnol ar bartneriaeth â rhieni, gofalwyr a'r gymuned. Gwyddom fod tystiolaeth yn dangos bod mwy o ymgysylltiad â theuluoedd yn cael effaith gadarnhaol ar fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac ar wella presenoldeb. Roeddwn mewn ysgol yr wythnos diwethaf yn siarad â'r pennaeth ynglŷn â sut maent yn ymgysylltu â theuluoedd mewn perthynas â phresenoldeb, a dywedodd wrthyf, os siaradwch â theuluoedd am bresenoldeb o 90 y cant, i nifer o bobl mae hynny'n teimlo fel lefel uchel iawn o gyflawniad, ond pan fyddwch chi'n disgrifio nifer y dyddiau a gollir drwy hynny, mae'n paentio darlun llawer mwy llwm.
Rydym eisiau i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgolion bro, sy'n golygu ymateb i anghenion eu cymuned, meithrin partneriaethau cryf gyda theuluoedd a gofalwyr, a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill. Mae ein swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein model ysgolion bro. Mae ymgysylltu â theuluoedd yn sicrhau bod teuluoedd yn teimlo'u bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Mae eu hanghenion, a rhai eu plant, yn cael eu deall a'u diwallu. Maent yn cael eu hannog i chwarae rhan weithredol yn addysg eu plentyn. Dylai ysgolion annog cyfranogiad pob teulu yn y gwaith a wnânt, ond dylai fod ganddynt ffocws penodol ar gefnogi teuluoedd o aelwydydd incwm is. Diolch i Jenny Rathbone am yr ymweliad â'r ysgol yn ei hetholaeth heddiw lle clywsom am ddulliau arloesol iawn mewn perthynas â hynny.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd eleni drwy ddarparu cyllid o dros £6.5 miliwn. Fel y nodwyd yn y ddadl, rydym hefyd yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn genedlaethol i gefnogi ysgolion i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ac mewn perthynas â chyfathrebu i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n dal i fod ganddynt, a phwysleisio pa mor bwysig yw hi i'w plant fynd i'r ysgol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd lleol eisoes, a byddwn yn ystyried pa wersi y gallwn eu dysgu i'w rhannu'n genedlaethol ar draws Cymru yn y modd roedd Jayne Bryant yn gofyn i mi ei gadarnhau.
Mae gan wasanaethau lles addysg awdurdodau lleol rôl hanfodol i'w chwarae, nid yn unig i godi lefelau presenoldeb, ond hefyd i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl i'w disgwyl. Byddaf yn buddsoddi £2.5 miliwn yn y gwasanaethau hyn eleni er mwyn darparu capasiti ychwanegol mawr ei angen. Bydd hyn yn galluogi'r gwasanaeth i ddarparu cefnogaeth gynharach cyn i broblemau waethygu, a bydd hefyd yn rhoi cymorth mwy dwys i ddysgwyr sydd â lefelau uchel o absenoldeb.
Rydym yn gwybod bod cynnydd wedi bod yn nifer y teuluoedd sy'n dewis addysg yn y cartref ers y pandemig. I rai, mae hwn wedi bod yn ddewis gweithredol, ond rwy'n cydnabod nad yw hyn yn debygol o fod yn wir am bawb. Ni ddylai unrhyw riant fod yn datgofrestru ei blentyn oherwydd diffyg cefnogaeth briodol. Felly mae deall rhesymau rhieni dros ddewis addysg yn y cartref yn bwysig. Rydym yn gweithio gyda Data Cymru i wella ansawdd a lefel y data a gofnodir gennym ar hyn o bryd mewn perthynas â datgofrestru a demograffeg allweddol y garfan hon, gan gynnwys y rhesymau dros ddatgofrestru.
Fel rydym eisoes wedi'i drafod yn y ddadl heddiw, mae iechyd meddwl gwael wedi cael ei gysylltu â phresenoldeb gwael yn yr ysgol, gyda gorbryder yn aml yn cael ei ddisgrifio fel ffactor allweddol. Mae ein fframwaith ar wreiddio dull ysgol gyfan o sicrhau llesiant emosiynol a meddyliol yn amlygu'r angen i ysgolion ddefnyddio'r ffynonellau data sydd ar gael iddynt wrth ystyried anghenion llesiant eu cymuned. Byddwn yn ystyried sut y gellir defnyddio data presenoldeb i helpu i lywio'r modd y mae ysgolion yn cefnogi llesiant dysgwyr i atal absenoldeb parhaus. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial, ac mae gweithio gyda phartneriaid i gynyddu presenoldeb dysgwyr yn hanfodol i hyn.