Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 8 Chwefror 2023.
Wel, mae angen i’r Aelod ddarllen ein cynnig, gan fod y cynnig gwreiddiol yn cydnabod bod porthladdoedd rhydd yn agwedd bwysig ar ddatblygu ein heconomi. A rhaid bod yr Aelod yn gallu gweld nad yw’r cynnig gwreiddiol yn ddadleuol mewn unrhyw ystyr, ac mai ei unig nod yw ceisio dangos cefnogaeth gan y Senedd hon i'r rhaglen porthladdoedd rhydd. Yn sicr, nid yw'n cyfiawnhau ymgais i ddileu unrhyw ran ohono.
O’r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir fod gan y model porthladdoedd rhydd dri amcan penodol. Y cyntaf o’r rheini yw sefydlu porthladdoedd rhydd fel hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddi a masnachu byd-eang, a gwyddom, o adroddiad blynyddol y rhaglen porthladdoedd rhydd y llynedd, fod tystiolaeth i'w chael o fuddsoddiad newydd mewn ardaloedd porthladd rhydd. Er enghraifft, mae statws porthladd rhydd yn Humber wedi galluogi cwmni Pensana i sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i sefydlu hyb prosesu prinfwynau cyntaf Ewrop yn Saltend, y disgwylir iddo gynrychioli oddeutu 5 y cant o farchnad y byd erbyn 2025. Bydd yr hyb hwnnw'n cynhyrchu cydrannau hanfodol ar gyfer cerbydau trydan ac offer alltraeth. Yn wir, mae gan yr hyb rôl hollbwysig yn helpu i sefydlu cadwyn gyflenwi metel magnetau annibynnol ar gyfer y DU a thu hwnt.
Nawr, fe ŵyr yr Aelodau fod porthladdoedd rhydd yn ardaloedd economaidd lle mae rhyddhad treth ar gael i fusnesau, ac mae digon o gymelliadau economaidd eraill i fusnesau yn yr ardaloedd hyn. Gall busnesau mewn ardaloedd porthladd rhydd fwynhau lwfansau cyfalaf uwch, yn ogystal â rhyddhad ardrethi ar gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a rhyddhad ardrethi busnes. Ceir amrywiaeth o fanteision tollau mewn ardaloedd porthladd rhydd hefyd, gan gynnwys datganiadau symlach a thollau gohiriedig ar nwyddau a fewnforir. Ac felly, mae amrywiaeth o fanteision economaidd i fusnesau mewn ardaloedd porthladd rhydd i'w helpu i ddod yn hybiau masnach a buddsoddi ffyniannus.
Nawr, ail amcan y rhaglen porthladdoedd rhydd yw creu mannau gwych ar gyfer arloesi drwy ganolbwyntio ar fuddsoddiad y sector preifat a'r sector cyhoeddus mewn ymchwil a datblygu. Mae porthladdoedd rhydd wedi datblygu cynlluniau uchelgeisiol i arloesi, ac mae llawer yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi targed Llywodraeth y DU i gyflawni sero net erbyn 2050. Yn wir, yn nwyrain canolbarth Lloegr, mae’r porthladd rhydd yn defnyddio rhan o’i £25 miliwn o gyllid cyfalaf sbarduno i sefydlu academi sgiliau hydrogen. Mae disgwyl i'r academi, sy'n cael ei chefnogi gan nifer o brifysgolion, agor yn nes ymlaen eleni, a hon fydd canolfan hyfforddi ymarferol gyntaf y diwydiant yn y DU, gan roi dwyrain canolbarth Lloegr ar flaen y gad o ran uchelgais sero net y DU. Mae porthladdoedd rhydd, yn eu hanfod, yn amgylcheddau sy'n helpu i ddod ag arloeswyr ynghyd i gydweithredu mewn ffyrdd newydd a datblygu a threialu syniadau a thechnolegau newydd, a dyma'r union fath o gydweithio ac arloesi rwy'n edrych ymlaen at ei weld ym mhorthladdoedd rhydd Cymru yn y dyfodol.
Rwyf wedi cyfeirio ers tro at fy etholaeth i, Preseli Sir Benfro, fel prifddinas ynni Cymru, a phe bai cais y porthladd rhydd Celtaidd yn llwyddiannus, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddem yn gweld arloesi cyffrous iawn ar hyd arfordir de Cymru. Un maes o’r fath yw ynni gwynt arnofiol ar y môr, a gwyddom o weledigaeth y consortiwm y bydd cais llwyddiannus am borthladd rhydd Celtaidd yn cyflymu mewnfuddsoddiad mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu newydd i gefnogi’r gwaith o greu prosiectau ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Buom yn dadlau’n ddiweddar ynglŷn â pha mor bwysig y gall ynni adnewyddadwy ar y môr fod i gynhyrchu ynni glân a rhad, yn enwedig ynni gwynt arnofiol ar y môr, ac felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r ymgyrch bwysig hon. Ac yn y gogledd, gadewch inni beidio ag anghofio’r ymgyrch ragorol dros borthladd rhydd Cymru yn Ynys Môn, gyda gweledigaeth unwaith eto i ddatblygu hyb ar gyfer ynni cynaliadwy, a fyddai hefyd yn cefnogi’r DU ar ei thaith tuag at sero net.
Trydydd amcan y rhaglen porthladdoedd rhydd yw hybu adfywio drwy greu swyddi medrus iawn. Mae gan borthladdoedd rhydd botensial i greu cyfleoedd eang o ran creu swyddi, ac yn ôl amcangyfrifon ar gyfer y porthladdoedd rhydd, byddai dros 41,000 o swyddi uniongyrchol yn cael eu creu yn Teesside, dros 28,000 o swyddi yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, a thros 10,000 o swyddi yn Ninas-ranbarth Lerpwl. Gwnaethpwyd rhai o’r amcangyfrifon swyddi hyn yn gynnar yn 2022, ac wrth gwrs, mae pob ardal yn wahanol, ond roeddwn am roi syniad i’r Aelodau o’r nifer sylweddol o swyddi y gellid eu creu yng Nghymru pe bai unrhyw un o’r ceisiadau'n llwyddiannus. Wrth gwrs, mae adfywio ardal yn dibynnu i raddau helaeth ar sicrhau bod gan bobl leol sgiliau i gael mynediad at y cyfleoedd a ddarperir gan y porthladd rhydd, a dyna pam fod gan borthladdoedd rhydd strategaethau sgiliau a gweithlu yn rhan o’u hachosion busnes; strategaethau sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn cyflawni yn ôl y bwriad.
Ddirprwy Lywydd, fy ngobaith yw y bydd y cyhoeddiad sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod sawl un o borthladdoedd rhydd Cymru yn llwyddiannus, fel y gellir teimlo manteision porthladdoedd rhydd ledled y wlad. Mae gan borthladdoedd rhydd allu i drawsnewid ein cymunedau, a gwn y bydd yr Aelodau'n awyddus i nodi pam y dylai ceisiadau yn eu hardaloedd fod yn llwyddiannus. Mae’r trafodaethau a gefais gyda rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â chais y porthladd rhydd Celtaidd yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig, a gwn o fy sgyrsiau gydag Aelodau sy’n cynrychioli rhannau eraill o Gymru eu bod hwythau hefyd wedi cael eu hysbrydoli gan y gwaith a wnaed ar ddatblygu'r ceisiadau hyn.
Wrth gwrs, mae lefel y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn allweddol i lwyddiant unrhyw borthladd rhydd. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi darparu pecyn cymorth i godi ymwybyddiaeth o borthladdoedd rhydd Prydain gyda buddsoddwyr, ac i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i fuddsoddi ym mhorthladdoedd rhydd Prydain. Wedi i borthladd rhydd gael ei sefydlu, fy nealltwriaeth i yw y bydd yr Adran Masnach Ryngwladol yn ei gefnogi gyda mynediad at eu gwasanaethau cymorth buddsoddiadau ac allforio, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr. Wrth gwrs, pe bai cais porthladd rhydd Cymreig yn llwyddiannus, byddai'n gallu defnyddio'r gwasanaethau cymorth buddsoddiadau ac allforio hyn; ac yn fwy na hynny, rwy'n gobeithio y byddai cymorth ôl-ofal ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi porthladdoedd rhydd Cymru pan fyddant ar waith, a sut mae’n bwriadu gweithio gyda’r Adran Masnach Ryngwladol mewn perthynas â chymorth ôl-ofal.
Yn y tymor hwy, dylai porthladdoedd rhydd fod mewn sefyllfa i ddenu buddsoddiad a thyfu masnach ryngwladol yn annibynnol, ond yn y tymor byr iawn, mae gan Lywodraeth Cymru rôl yma, ochr yn ochr â’r Adran Masnach Ryngwladol, i hyrwyddo cyfleoedd porthladdoedd rhydd i fuddsoddwyr byd-eang.
Nawr, rwy’n sylweddoli nad yw’r Gweinidog yn mynd i ddatgelu llawer ynghylch pa safle neu safleoedd sy’n llwyddiannus, ac felly, diben y ddadl heddiw mewn gwirionedd yw i ni glywed mwy am y tri chais o Gymru sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd, a dysgu mwy am y rôl y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae wrth hyrwyddo unrhyw borthladdoedd rhydd yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf eisoes wedi sôn am gais Ynys Môn a chais y porthladd rhydd Celtaidd, ond mae yna gais rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru hefyd.
Ac felly, ar y nodyn hwnnw, rwy'n croesawu safbwyntiau'r Aelodau ar ddatblygu porthladd rhydd yng Nghymru, yn ogystal â chlywed mwy am y ceisiadau yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau. Gallwn weld llwyddiant porthladdoedd rhydd mewn rhannau eraill o’r DU, ac mae’n bwysig nad yw Cymru’n cael ei gadael ar ôl. Gall porthladdoedd rhydd helpu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau i ddod, ac felly, ar y nodyn hwnnw, gofynnaf i’r Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw a dangos eu cefnogaeth i’r rhaglen porthladdoedd rhydd a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i Gymru. Diolch.