Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae arnaf ofn y gallai fy ffordd naturiol sinigaidd ac amheus o edrych ar y byd daflu dŵr ar gyfraniad hwyliog llefarydd y Blaid Geidwadol ar yr economi, ond ni chredaf y bydd yn syndod i'r Aelodau glywed nad wyf yn cefnogi'r cysyniad o borthladd rhydd. Mae nifer o ffyrdd y gallwn gyflawni'r hyn a nododd fy nghyd-Aelod, ac rwy'n cymryd llawer o'r hyn a ddywedir wrthym am y ceisiadau gyda llond dwrn o halen. Pan fydd pobl yn gwneud cais am gymorth, maent yn aml yn syrthio i’r fagl o ddweud wrth bobl yr hyn y maent am ei glywed, a chredaf fod angen inni fod yn ymwybodol o hynny, ac mae angen i bob un ohonom graffu ar yr hyn a ddywedir wrthym.
Mae'r cysyniad o borthladdoedd rhydd yn bolisi arall rydym wedi rhoi cynnig arno o'r blaen, ac nad yw wedi cael fawr o lwyddiant. Gadewch inni fod yn glir: economeg o'r brig i lawr yw'r cysyniad o borthladdoedd rhydd; rhywbeth y bu llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon yn lambastio Liz Truss yn ei gylch ychydig fisoedd yn ôl; rhywbeth y mae pob grŵp, ac eithrio un, yn y Senedd yn ei ystyried yn un o fethiannau Thatcheriaeth.
Nawr, i droi at rai o’r dadleuon o blaid, un o’r dadleuon allweddol yw creu swyddi, ac ar olwg gyntaf, gwych, ond credaf fod y niferoedd a grybwyllir yn ofnadwy o optimistaidd ar y gorau, a hoffwn ofyn faint o’r swyddi hynny a fyddai'n swyddi newydd yn hytrach na swyddi sy'n cael eu dadleoli o rywle arall. A bod yn deg, mae'r ceisiadau wedi cydnabod y risg hon ac wedi dweud y byddant yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd, ond nid wyf wedi derbyn unrhyw beth eto heblaw sicrwydd ar lafar i warantu na fydd swyddi'n cael eu dadleoli. Y gwir amdani yw y bydd hynny'n digwydd, ac ar draul economi ardaloedd y tu allan i unrhyw barth porthladd rhydd dynodedig. Nid oes ond angen inni edrych ar ardaloedd menter. Roedd 41 y cant o swyddi mewn ardaloedd menter, a sefydlwyd yn y 1980au, yn swyddi a gafodd eu hadleoli o rywle arall yn y DU. Gyda llaw, dywedwyd wrthyf y dylwn feddwl am borthladdoedd rhydd fel ardaloedd menter yn hytrach na phorthladdoedd rhydd traddodiadol, sydd ond yn ategu'r perygl y bydd swyddi'n cael eu dadleoli, yn fy marn i.
Nawr, nodaf y bydd telerau unrhyw gais yma yng Nghymru yn wahanol i Loegr. Mae gofynion i geisiadau gydnabod undebau llafur ac egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, cydfargeinio a hawliau gweithwyr. Unwaith eto, mae'n edrych yn dda ar bapur, ond mae'n hawdd dweud y bydd hyn oll yn cael ei barchu mewn cais. Dim ond pan fydd cais yn llwyddiannus y gellir profi hynny. Bob tro y gofynnais y cwestiwn ynglŷn â'r elfen hon, boed hynny i'r Llywodraeth neu'r ceisiadau eu hunain, yr unig beth a gaf yw gwarant ar lafar. Pan ofynnir iddynt am fecanweithiau i ymdrin â chyflogwyr sy'n torri'r gofynion hyn a'r mecanweithiau ar gyfer eu monitro, mae'r atebion yn llawer rhy amwys i roi unrhyw gysur. Y gorau a gefais oedd y bydd cwmnïau sy'n torri amodau yn colli manteision bod yn rhan o ardal porthladd rhydd. Ond gadewch inni feddwl am ymarferoldeb hyn. Y rheswm pam fod y cwmnïau hyn yn dod yno yn y lle cyntaf yw er mwyn iddynt allu elwa o'r gostyngiadau treth. Os cewch chi wared ar y buddion hyn, heb os, byddant yn bygwth gadael—stori sydd bron mor hen ag amser—gan fynd â'r holl swyddi hynny y dywedir wrthym y byddant yn eu creu gyda hwy. Nid wyf yn hyderus y byddai unrhyw Lywodraeth yn fodlon colli hynny, yn enwedig os oes gan y cwmni dan sylw weithlu mawr. Felly, yn y bôn, bydd y gwir rym, unwaith eto, gan gwmnïau. Pan fydd eich cymorth yn seiliedig ar greu swyddi, wrth gwrs nad ydych am golli'r swyddi hynny. Dyna fyddai’r realiti, a byddai’r Llywodraeth, awdurdodau lleol ac awdurdod y porthladd rhydd yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl.
Rwyf am gloi, Lywydd, drwy gyfeirio at rywbeth y mae pob un ohonom yma yn y Senedd, yn drawsbleidiol yn y Siambr hon, yn ei gefnogi, neu o leiaf yn dweud ein bod yn ei gefnogi, sef cadw cyfoeth yng Nghymru. Ni fydd cyfoeth yn cael ei gadw yng Nghymru drwy borthladdoedd rhydd; i’r gwrthwyneb: bydd yn llifo allan drwy ei ddulliau arferol ac ni fydd unrhyw fodd o drethu elw’r busnesau sy’n gweithredu o'u mewn—elw y bydd gweithwyr Cymru wedi’i wneud i’r cwmnïau hynny. Rydym yn sôn am adeiladu economi Cymru drwy gefnogi mentergarwch Cymreig, cefnogi busnesau lleol, cwmnïau cydweithredol—dyna ble dylid buddsoddi a chanolbwyntio. Efallai y bydd ein ffordd ni'n cymryd amser, ond dyna'r ffordd fwy cynaliadwy a'r ffordd a fydd yn sicrhau'r budd mwyaf i weithwyr Cymru.
Credaf mai'r cwestiwn y dylem ei ofyn i ni'n hunain yw a ydym yn credu y dylai busnesau dalu trethi a chyfrannu at wasanaethau cyhoeddus fel pawb arall ai peidio, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw. Os mai 'ydw' yw eich ateb, yn fy marn i, nid oes gennych unrhyw fusnes yn cefnogi porthladdoedd rhydd.