Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 8 Chwefror 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth yn fodlon cefnogi'r cynnig, yn amodol ar welliant 2. Rydym am fod yn glir nad ydym wedi ymrwymo i nifer penodol o borthladdoedd rhydd, a byddaf yn sôn am hynny yn nes ymlaen hefyd. Rwy’n cydnabod ffocws Plaid Cymru ar yr heriau a wynebir gan gymunedau arfordirol yn eu gwelliant. Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 1. Ar wahân i unrhyw beth arall, ni fyddai'n arwain at ein gwelliant ninnau, ond credaf fod eu gwelliant yn codi dadl ehangach rwy'n fwy na pharod i'w chael ac y byddwn, heb os, yn ailymweld â hi maes o law.
Ffocws y cynnig a gyflwynwyd heddiw yw porthladdoedd rhydd, ac mae’r model porthladdoedd rhydd wedi’i gynllunio i fod yn berthnasol i borthladdoedd o bob math—porthladdoedd môr, meysydd awyr a gorsafoedd trên. Rwy’n cydnabod bod gwahanol safbwyntiau yn yr ystafell—rhai'n fwy gwahanol na'i gilydd—ar yr ymagwedd bragmatig at borthladdoedd rhydd a rhai o’r safbwyntiau ideolegol ehangach ynghylch ble mae pobl yn dechrau ac yn cyrraedd yn y pen draw.
Mae gan borthladdoedd Cymru hanes hir wrth gwrs ac maent wedi helpu i lunio gwead economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Heddiw, maent yn parhau i fod yn nodwedd ganolog wrth sefydlu cysylltiadau masnachu newydd ar draws y byd ac wrth dyfu potensial masnach a buddsoddi rhyngwladol y DU a Chymru. Mae'r rhaglen porthladdoedd rhydd yn gyfaddawd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae ganddi’r potensial i gefnogi ein blaenoriaethau economaidd ledled Cymru i ysgogi twf net mewn swyddi, creu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel, a chefnogi datgarboneiddio fel rhan o’n taith tuag at sero net. Rwyf wedi dweud yn glir iawn ein bod yn ceisio tyfu yn hytrach na dadleoli gweithgarwch economaidd, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fod gwaith teg yn rhan hanfodol o’r hyn y mae’n rhaid i unrhyw gais porthladd rhydd ei sicrhau.