6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:04, 8 Chwefror 2023

Diolch yn fawr iawn. Mae’n dda cael cyfle eto i siarad am y cais sydd wedi cael ei baratoi a'i gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn a Stena Line i ddynodi Caergybi ac Ynys Môn yn borthladd rhydd, a hynny ar ran y gogledd i gyd. Mi ddywedaf i ar y cychwyn fel cefnogwr i’r cais, ac un sydd wedi cydweithio efo’r awduron, mae angen tipyn o onestrwydd o gwmpas y ddadl yma, ac mae eisiau dos o realiti yn hytrach nag ideoleg gwleidyddol ar y meinciau cyferbyn, hefyd.

Dydy hi ddim yn eglur i bawb beth ydy porthladd rhydd. Mae’n deg dweud bod gan lawer amheuon amdanyn nhw, ac rydyn ni wedi clywed rhai o’r amheuon hynny heddiw. Ac mae’n bwysig cymryd yr amheuon hynny o ddifri, a herio drwy’r amser—ac dwi wedi gwneud digon o hynny fy hun—achos rydym ni’n gwybod o hanes fod porthladdoedd rhydd sydd ddim yn dilyn rheolau clir a chadarn yn gallu dod â sgil-effeithiau negyddol. Ac mae'n rhaid cofio hefyd fod yna ffyrdd eraill o wneud buddsoddiadau sydd yn gallu osgoi y mathau yna o effeithiau negyddol. Felly, dyna ydy'r gonestrwydd dwi'n chwilio amdano fo.

Ond, i fi, beth sy'n bwysig ydy bod y cais yma, o fewn y fframwaith sydd gennym ni, yn gais sydd wedi ei lunio ar yr ynys, dan arweiniad partneriaid sydd wedi hen arfer gweithio efo'i gilydd—y cyngor sir a Stena; cais sydd dwi'n meddwl yn adlewyrchu ein dyheadau ni a'n buddiannau ni fel cymuned, tra, ar yr un pryd, yn dod â buddion economaidd ehangach. Ond hefyd, mae'n gais sydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd ni fel cymunedau, efo'i awduron o, a minnau fel cefnogwr, wedi mynnu gweithredu o fewn set o egwyddorion clir. [Torri ar draws.]

Os caf i gario ymlaen am funud fach. Felly, oedd, mi oedd yn rhaid mynnu a chael nifer o gonsesiynau a sicrwydd ar nifer o faterion cyn cychwyn ar y fenter. Mi oedd yna frwydr ariannol i'w hennill yn gyntaf. Yn wreiddiol, mi oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig £26 miliwn i bob porthladd rhydd yn Lloegr ac £8 miliwn i bob un yng Nghymru. Mi dynnais i sylw at ba mor annheg oedd hynny; mi oedd pawb yn gallu gweld bod hynny'n hollol annerbyniol, ac mi ddigwyddodd y trafodaethau. Roeddwn i'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gweld llygad yn llygad â fi ar hyn. Mi ddaeth yna fuddugoliaeth ar yr alwad yna am faes chwarae gwastad a chwarae teg ariannol, efo £26 miliwn bellach ar y bwrdd i Gymru hefyd.

Ond mi oedd angen mwy na hynny; mi oedd hefyd angen gwybod y byddai hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu fwy ynghyd â'r amgylchedd. A drwy drafodaeth hefyd, mi gawsom ni fwy o'r sicrwydd hynny mewn prosbectws Cymreig newydd. Ond hyd yn oed wedyn, mi fydd angen monitro parhaus—mi fydd hynny'n allweddol er mwyn bod yn ymwybodol o'r effeithiau negyddol posib—a dwi'n falch o glywed Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud sylwadau i'r perwyl hwnnw hefyd.