Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 8 Chwefror 2023.
Nid ideoleg yw porthladdoedd rhydd, ac fel rwyf newydd ei ddweud, maent wedi newid yr economi yn yr Alban, lle buddsoddwyd ynddynt. Soniodd am y gogledd-ddwyrain—edrychwch ar yr effaith y mae wedi’i chael yng Teesside. Mae wedi cael effaith enfawr ar gymuned sydd wedi bod yn ddifreintiedig yn y gorffennol.
Yn ne-orllewin Cymru, rhagwelir y bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn creu 16,000 o swyddi a £5.5 biliwn o fewnfuddsoddiad ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd. Dyna 16,000 o swyddi ynni gwyrdd o ansawdd uchel sy'n talu'n dda, gyda chyfle gwirioneddol i ddatgloi rhan o'r diwydiant ynni gwynt arnofiol ar y môr sy'n werth £54 biliwn. Mae cysylltu dau o’n porthladdoedd môr dwfn yn Aberdaugleddau a Phort Talbot yn ddefnydd gwych o’r adnoddau sydd gennym yn barod, a dylai hynny ein gwneud yn fwy deniadol i’r sector ynni gwynt ar y môr, o ystyried y byddai’n cwmpasu rhan fawr o arfordir Cymru.
Nid oes gennyf amheuaeth y bydd hefyd yn helpu i gefnogi fferm wynt ar y môr arfaethedig Gwynt Glas ger arfordir sir Benfro. Mae gennym eisoes y seilwaith ym Mhort Talbot i gefnogi arloesedd y diwydiant blaengar hwn yn y môr Celtaidd a gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang mewn ynni gwyrdd. Nid yn unig fod gennym borthladd môr dwfn, ond mae gennym eisoes weithfeydd dur parod i gefnogi'r ochr weithgynhyrchu mewn diwydiant ynni gwynt arnofiol ar y môr. Mae hefyd yn amlwg fod gennym gysylltiadau trafnidiaeth gwych, felly gallwn gyrraedd rhannau eraill o'r DU a thu hwnt yn hawdd.
Yn olaf, mae ardal Castell-nedd Port Talbot hefyd yn rhan o Grŵp Colegau NPTC sydd ag enw da iawn eisoes am ddarparu addysg bellach ac sy’n gweithio gydag arweinwyr y diwydiant a phrifysgolion, felly mae gennym botensial hefyd i ddarparu’r cymysgedd sgiliau cywir, a fydd yn helpu i ategu a chyflawni'r prosiect hwn ymhell i'r dyfodol.
Ni allaf orbwysleisio bod taer angen gwasgaru buddsoddiad o’r math hwn y tu hwnt i’r lleoedd arferol. Dylai fod yn anghyfforddus clywed—yn enwedig i Luke Fletcher, sy’n cynrychioli Castell-nedd Port Talbot fel fi—fod gwerth ychwanegol gros cyfartalog y pen yng Nghastell-nedd Port Talbot, lai nag awr i lawr y ffordd, yn llai na hanner gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghaerdydd. Yn anffodus, mae sgôr ffyniant a gyhoeddwyd yn 2022 ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yn eu rhoi'n bedwerydd ar bymtheg o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac yn safle 337 o'r 374 o awdurdodau yn y DU o ran lles economaidd a chymdeithasol. Felly, mae porthladdoedd rhydd yn gyfle i newid y naratif, a chredaf mai dyna'r pwynt y mae Luke Fletcher a Phlaid Cymru a’r gynghrair wrth-dwf yn ei gamddeall yn ôl pob golwg.
Felly, er gwaethaf y gwir botensial hwn yn yr ardal, nid ydym yn creu’r allbwn economaidd, nid ydym yn cael yr incymau priodol, ac nid ydym yn harneisio’r potensial a’r sgiliau sydd gennym. Gall porthladd rhydd newid y sefyllfa honno, a chredaf fod gan y porthladd rhydd Celtaidd botensial di-ben-draw yn sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot. Gall coridor arloesi ynni gwyrdd, wedi’i ategu gan y buddsoddiad hwn, wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac arddangos y dalent sydd gennym yng Nghymru i’r byd.
Gadewch inni obeithio hefyd y bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol yng nghanol trefi mewn lleoedd fel Port Talbot, yn ogystal ag ar fusnesau bach yn yr ardal a'r cyffiniau, sy'n dibynnu ar nifer cwsmeriaid. Rwy'n clywed yn aml y bydd y prosiect hwn yn drawsnewidiol i'r rhanbarth. Gan weithio gydag amrywiaeth enfawr o bartneriaid ar draws y de, credaf y gallwn wneud y rhan hon o Gymru yn enghraifft wych o’r hyn y gall porthladdoedd rhydd ei gynnig, ac rwy'n dweud fy mod yn llwyr gefnogi’r cais am borthladd rhydd Celtaidd yn ne-orllewin Cymru. Diolch.