Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 8 Chwefror 2023.
Na wnaf. [Chwerthin.] Ac ers imi fod yn Aelod, rwyf wedi cael nifer di-rif o gyfarfodydd ac wedi mynychu llu o ddigwyddiadau gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru fel rhan o'u hymdrech i sicrhau bod eu cais yn cael ei gymeradwyo ac mae'n rhaid imi ddweud bod pob un ohonynt wedi creu cryn argraff arnaf.
Roeddwn yn falch iawn o glywed bod tri chais porthladd rhydd ardderchog wedi’u cyflwyno yng Nghymru, ac mae hynny’n newyddion gwych i’r wlad, gyda phob un yn darparu manteision sylweddol. Efallai fod hyn yn swnio braidd yn rhagfarnllyd, ond fel Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n siŵr na fydd yn syndod i unrhyw un yma fod gennyf le yn fy nghalon i gais Casnewydd. Mae'r manylion cymhleth wedi’u cadw'n gyfrinachol, ond o’r hyn y gwn i, mae cais Casnewydd yn cynnwys cyfres o safleoedd cyflogaeth sydd heb eu datblygu’n ddigonol ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Wel, gadewch inni fod yn onest, mae hwnnw angen yr holl gymorth y gall ei gael. Pe bai'n llwyddiannus, byddai’r cais, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn helpu i ddenu mwy o fusnes cenedlaethol a rhyngwladol i’r ardal, a fydd, yn ei dro, yn golygu miloedd yn rhagor o swyddi a chyfleoedd hyfforddi, nid yn unig i drigolion Casnewydd, ond i bobl ledled de-ddwyrain Cymru.
Gwn fod gan fy nghyd-Aelodau, Samuel Kurtz a Paul Davies, yr un lefel o frwdfrydedd ac ymroddiad i gais y porthladd rhydd Celtaidd yn eu hardal hwythau, a fyddai’n creu oddeutu 16,000 o swyddi o ansawdd uchel—swyddi gwyrdd, mewn gwirionedd—ac yn arwain at oddeutu £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd. Ar ôl cyfarfod â’r grŵp y tu ôl i gais y porthladd rhydd Celtaidd, ac ar ôl gweld eu cyflwyniad, roedd yn amlwg i mi o fewn munudau fod ganddynt gynlluniau gwirioneddol wych yn eu lle a fydd o fudd mawr i drigolion a mentergarwch lleol.
Rwyf hefyd wedi cael sgyrsiau di-rif ac wedi gweithio gyda fy nghyd-bleidwraig Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, sydd wedi bod yn canu clodydd cais porthladd rhydd Ynys Môn ers y cychwyn cyntaf—yn fwy nag unrhyw un arall rwyf wedi’i weld, yn enwedig ar y pwnc hwn. Hoffwn ddweud y byddai cais porthladd rhydd Ynys Môn yn denu £1 biliwn o fuddsoddiad ac yn creu hyd at 13,000 o swyddi newydd ar gyflogau uchel ar yr ynys, felly credwch fi pan ddywedaf fy mod yn gwybod yn iawn pa mor angerddol yw fy holl gyd-bleidwyr mewn perthynas â chreu porthladdoedd rhydd yn eu hardaloedd.
Yn y cyfnod ôl-Brexit hwn, gall porthladdoedd rhydd chwarae rhan hollbwysig ar gyfer y DU, fel yr amlinellodd ein Prif Weinidog Rishi Sunak yn ddiweddar. Dywedodd hyn:
'Mae Parthau Masnach Tramor yn ffynnu ledled y byd—ac eithrio yn yr UE. Ar ôl Brexit, gallent chwarae rhan bwysig yn dangos pa mor agored yw Prydain i'r byd, yn ogystal ag ailgysylltu'r genedl â'i hanes morwrol balch.'
Aeth Prif Weinidog y DU ymlaen i ddweud yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Paul Davies yn ei agoriad, y byddai porthladdoedd rhydd yn darparu nifer o fanteision megis 'cynllunio symlach',
'tollau rhatach–gyda thariffau, TAW neu dollau ffafriol’, a threthi is hefyd,
'gostyngiadau treth i annog adeiladu, buddsoddi preifat a chreu swyddi', rhywbeth y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld yng Nghymru. Ni ellir gwadu bod y tri chais yn deilwng ac y byddent yn darparu buddion gwirioneddol ryfeddol i Gymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £26 miliwn i greu porthladd rhydd yng Nghymru, ac rwy’n falch o weld bod Gweinidogion yma yng Nghymru ac yn Llundain yn gweithredu ar eu gair drwy gydweithio i wireddu hyn. Rwy’n arbennig o falch o glywed y gallai ail borthladd rhydd fod yn yr arfaeth pe cyflwynir cynnig gwirioneddol eithriadol, rhywbeth a bwysleisiwyd i mi pan gyfarfûm â’r Ysgrifennydd ffyniant bro ar y pryd, Michael Gove, ac mae’n neges rwyf wedi’i rhannu gyda'r holl ymgeiswyr y cyfarfûm â hwy hyd yma.
Yn bersonol, byddaf yn parhau i ddadlau dros greu dau borthladd rhydd yng Nghymru, gan y byddant heb os yn hwb gwirioneddol i economi Cymru ac yn darparu manteision di-rif i bob un ohonom. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU ac yn cydweithredu’n effeithiol i gyflawni’r cynigion cyffrous hyn, a fydd heb amheuaeth yn darparu manteision economaidd eithriadol i Gymru. Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesi fy mysedd am ddau borthladd rhydd yma yng Nghymru, ac yn union fel fy holl gyd-bleidwyr ym mhob cwr o Gymru, edrychaf ymlaen at glywed y cyhoeddiad ar borthladdoedd rhydd yn cael ei wneud cyn bo hir.