Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 8 Chwefror 2023.
Credaf ei bod yn deg dweud, os edrychwch ar y rhaglen porthladdoedd rhydd yn Lloegr, ei bod yn wahanol i’r un sydd gennym yng Nghymru. Mae'r paramedrau ar gyfer y ceisiadau'n wahanol—mae hynny oherwydd inni gael sgwrs synhwyrol yn y pen draw rhwng y ddwy Lywodraeth. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Samuel Kurtz yn gynharach am y ffaith bod Llywodraeth Cymru a’r DU wedi cydweithio. Nid oedd hynny heb ei anawsterau. Yn y pen draw, fe lwyddwyd i gael yr un cynnig gan Drysorlys y DU. Fe gofiwch ar un adeg y dywedwyd wrthym y byddai Cymru'n cael hanner arian y porthladdoedd rhydd eraill. Fe wnaethom hefyd sicrhau cytundeb ar ein blaenoriaethau—ymrwymiad i'r gofyniad i gais fodloni gofynion nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i fodloni ein gofynion ar waith teg hefyd. Ni fyddai’r pethau hynny wedi bod yno pe na bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o'r broses o ddod i gytundeb pragmatig ar gyfaddawd y gallwn fyw gydag ef.
Rydym yn ceisio sicrhau nawr fod y gystadleuaeth yn cyrraedd pen draw. Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion oedd 24 Tachwedd y llynedd. Fel y nodwyd, daeth tri chais i law. Mae fy swyddogion yn y broses o asesu’r ceisiadau hynny ar y cyd â swyddogion Llywodraeth y DU. Felly, fel y rhagwelais wrth gynnig y ddadl hon, ni allaf wneud sylw ar fanylion penodol unrhyw gynnig, er mawr syndod i neb. Gobeithiwn allu cyhoeddi’r canlyniad y gwanwyn hwn. Felly, ni ddylai gymryd llawer mwy o amser.
Dylwn ddweud, serch hynny, ac mae hyn yn rhan o'r rheswm pam fod gwelliant gan y Llywodraeth sy'n ceisio newid pwynt 3, sef, os oes mwy nag un porthladd rhydd, bydd angen i Drysorlys y DU ddarparu'r adnoddau ariannol. Dylai fod yn wir o hyd na ddylid cyflwyno porthladd rhydd yng Nghymru gyda phwerau datganoledig lle byddai angen inni hepgor trethi datganoledig gyda setliad llai gan Drysorlys y DU nag unrhyw borthladd rhydd yn unman arall. Ac felly, mae her yn hynny ynghylch y ceisiadau eu hunain. Ac os oes mwy nag un cais yn sefyll allan, bydd angen i Drysorlys y DU weithredu i wireddu hynny.
Dylwn hefyd nodi'r pwynt hwn yn glir: nid porthladdoedd rhydd yw'r unig gyfleoedd buddsoddi er mwyn sicrhau swyddi da, cynaliadwy mewn perthynas â'n porthladdoedd yng Nghymru. Bydd yr Aelodau’n cofio imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ychydig wythnosau’n ôl yn unig, gan wneud datganiad llafar ar ein blaenoriaethau economaidd a rhai o’r prosiectau sydd ar waith gennym ar y cyd â Llywodraeth y DU. Ceir manteision gwirioneddol pan fo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd, gyda phartneriaeth sy’n seiliedig ar barch cydradd, lle mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau yn unol â’r setliad datganoli, nid ar ei draul. Mae'n anffodus nad yw'r dull gweithredu hwn wedi'i ymestyn i raglenni a pholisïau eraill, megis y gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro.
Yn fy natganiad llafar blaenorol, nodais ein cynllun hirdymor ar gyfer twf economaidd sefydlog sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn erbyn rhagolygon economaidd cyffredinol sy’n gwaethygu, a’r prif achosion am hynny yw cyfuniad gwenwynig o Brexit, tanfuddsoddiad a’r difrod a achoswyd gan gyllideb fach yr hydref diwethaf. Roeddwn yn ddiolchgar i Tom Giffard am ei egwyl gomedi. Nid wyf yn rhannu barn Liz Truss ynglŷn â'r gynghrair wrth-dwf, nac yn wir ei bod wedi syrthio i fagl cynllwyn asgell chwith, yn hytrach nag ymateb trychinebus gan y farchnad, a’r dynion mewn siwtiau llwyd o bwyllgor 1922 yn ymweld â hi i ddweud wrthi fod ei hamser ar ben.
Fodd bynnag, mae ei hamser byr wedi achosi niwed gwirioneddol a pharhaol i ddeiliaid morgeisi, darpar brynwyr tai, a buddsoddiad busnes. Rydym yn dal i fyw gyda chanlyniadau ei dewisiadau. Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi gwneud ail ragolwg yn ddiweddar a nodai mai’r DU fydd yr unig economi fawr i grebachu yn 2023—rhagolwg ar gyfer y DU sy'n debyg iawn i un Banc Lloegr. Mae asesiad llwm y banc na all economi'r DU dyfu mwy nag 1 y cant y flwyddyn heb gynhyrchu chwyddiant yn peri llawn cymaint o bryder.
Wrth ymateb i’r cynnig heddiw, hoffwn ailadrodd mai’r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i fywiogi economi’r DU yn ei chyfanrwydd yw cyfeiriad economaidd cydlynol ar gyfer adferiad a thwf, un sy’n seiliedig ar gryfderau a dewisiadau strategol pob un o'r gwledydd cyfansoddol, ac un sy’n parchu datganoli a mandad uniongyrchol y Senedd hon a Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae gennym gynllun, a’n cenhadaeth economaidd yw ein ffocws o hyd ar gyfer cenedl wyrddach, fwy llewyrchus a mwy cyfartal. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru yn y ddadl heddiw.