7. Dadl Plaid Cymru: Datganoli treth incwm

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:43, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

—gallwch liniaru'r risg hefyd. Prin yw'r amser sydd gennyf, mae arnaf ofn.

Gallwch liniaru'r risg hefyd oherwydd bod y dull o addasu'r grant bloc yn caniatáu i'r mathau hynny o risgiau gael eu lliniaru. Rydym yn lliniaru ar hyn o bryd drwy'r cytundeb cyllidol sydd eisoes ar waith ar gyfer y risgiau cyllidebol sy'n codi o'r ffordd y dosberthir trethdalwyr Cymru yn wahanol, a gellid addasu'r polisi lliniaru addasiadau i'r grantiau bloc ymhellach i liniaru yn y ffordd y mae Comisiwn Cyllid Gogledd Iwerddon wedi'i awgrymu os caiff bandiau treth incwm eu datganoli yno hefyd.

Felly, mae yna bethau y gallwn eu gwneud i liniaru'r risgiau, ond mae cyfleoedd gwych yma, yn seiliedig ar brofiad yr Alban, nid yn unig i gynhyrchu refeniw ychwanegol, ond hefyd i greu strwythur treth llawer mwy blaengar nag a gawn gan San Steffan ar hyn o bryd.