Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 8 Chwefror 2023.
Ddoe yn y ddadl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, fe siaradais am y ffordd y mae pobl Cymru yn wynebu sawl argyfwng, argyfyngau digynsail ers dyfodiad datganoli, ac fe gytunais gyda Llywodraeth Cymru fod hon yn gyllideb anodd mewn cyfnod anodd, ac amlinellais y cymorth sydd ei angen ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf, pam mae'n rhaid rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar y gwasanaethau sy'n darparu'r cymorth hwn i lenwi'r tyllau enfawr sy'n bodoli yn y rhwyd ddiogelwch, sydd wedi ei rhwygo'n rhacs gan Dorïaid San Steffan.
Nodais yn fy nghyfraniad pam y dylai Llywodraeth Cymru deimlo dyletswydd i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddi, sef pwrpas ein galwad arni i ddefnyddio'r pwerau codi treth incwm sydd ganddi ar hyn o bryd i wasanaethu a chefnogi pobl Cymru yn ystod yr argyfyngau hyn—yr argyfwng costau byw, argyfwng y GIG, yr argyfwng gofal cymdeithasol, yr argyfwng costau dysgu, yr argyfwng costau gwneud busnes, yr argyfwng tai, yr argyfwng hinsawdd—argyfyngau sy'n effeithio'n anghymesur ar y mwyaf bregus o'n dinasyddion, ac y bydd eu heffeithiau'n creithio ein cymunedau nid yn unig heddiw ac yfory, ond am flynyddoedd i ddod. Oherwydd rwyf fi, yn bersonol, wedi cael llond bol ar glywed Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud drosodd a throsodd, 'Hoffem wneud mwy ond nid oes gennym arian'. Os yw'n wir mai proses yw datganoli, fel y'i disgrifiwyd gan Ron Davies, taith heb unrhyw ben draw sefydlog, sy'n ein galluogi i wneud ein penderfyniadau ein hunain a gosod ein blaenoriaethau ein hunain, yna mae galw am y pwerau sydd eu hangen arnom i Gymru allu fforddio gwneud hynny yn gam cwbl resymegol, yn enwedig o ystyried yr angen, fel y mae ein cynnig yn ei ddisgrifio, i ymateb i'r argyfwng costau byw presennol a'r argyfwng sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, dyna'r 'pam', ac mae'r 'pam' yn bwysig oherwydd nid pwerau er eu mwyn eu hunain ydynt ond modd o wneud i ddatganoli weithio'n fwy effeithiol, i ariannu'r lefelau o wariant cyhoeddus sydd eu hangen arnom.
Rydym eisoes wedi clywed sut mae Cymru'n eithriad braidd o'i chymharu â gweddill y DU o ran ei phwerau trethu cyfyngedig, ac os caf ddyfynnu adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig ar y mater, fel cenedl rydym
'mewn sefyllfa gymharol anghyffredin yn yr ystyr nad oes gennym fawr o reolaeth' dros ein cyllideb ddatganoledig, yn gyfyngedig o ran ein pwerau trethu, heb fawr ddim dylanwad dros y grant bloc o San Steffan, fel y clywsom gan Luke Fletcher, ac yn eithriadol o gyfyngedig o ran ein pwerau benthyca.
Ac mae ein sefyllfa eithriadol hefyd yn berthnasol o fewn cyd-destun rhyngwladol ehangach. Fel y dangosodd astudiaeth ddiweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gan y DU y mae un o'r systemau trethu canolog mwyaf anhyblyg yn y byd—rhywbeth y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Mae pob cenedl G7 arall yn casglu mwy o drethi ar lefel leol neu ranbarthol o'i gymharu â'r DU. Er enghraifft, trethiant datganoledig yw 30 y cant o gyfanswm refeniw treth yr Almaen, 34 y cant yn achos UDA a bron i 50 y cant yn achos Canada. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros 10 y cant o refeniw trethi lleol y DU sy'n cael eu casglu ar y lefel ddatganoledig.
Gallwn edrych ar esiampl Euskadi, Gwlad y Basg, hefyd, lle mae gan eu Llywodraeth ddatganoledig bwerau helaeth dros drethiant incwm personol, trethiant corfforaethol a'i threth ei hun ar gyfoeth, etifeddiant a rhoddion. Mae hyn wedi ennyn twf economaidd yng Ngwlad y Basg, sydd wedi'i ddisgrifio fel twf hynod gynhwysol gan y Ganolfan Polisi Tramor. Mae'r rhanbarth yn ymddangos ymhlith yr uchaf yn Ewrop, nid yn unig o ran cynnyrch domestig gros y pen, ond yn hollbwysig, o ystyried y cyd-destun economaidd presennol, o ran y ganran isel o'r boblogaeth sy'n wynebu risg o dlodi neu allgáu cymdeithasol. Felly, nid yw'r hyn rydym yn ei gynnig yma yn arbennig o radical; yn hytrach, mae'n ceisio normaleiddio'r hyn sydd eisoes yn digwydd, ac yn digwydd yn dda mewn mannau eraill.
Mae'r ddadl na allwn ddefnyddio treth i ariannu'r gwariant sydd ei angen arnom, er mwyn creu'r Gymru decach, fwy ffyniannus y mae pawb ohonom am ei gweld, yn un go hurt o'i gosod yn y cyd-destun rhyngwladol. A chyda'r pwerau i osod pob cyfradd a band, gall treth incwm fod yn ffordd deg a chymesur o sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen arnom i'n helpu i oresgyn y lefelau cywilyddus o dlodi sy'n difetha bywydau gormod o'n dinasyddion, a'r angen enbyd i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw San Steffan erioed wedi gweithio, ac ni fydd byth yn gweithio i Gymru. Taith yw datganoli, taith o ddarganfod nad yw ffordd San Steffan o wneud pethau yn fodel da i Gymru ei ddilyn. Os ydych chi'n credu mewn datganoli, os ydych chi'n credu mewn bod o ddifrif ynghylch y cyfrifoldeb o lywodraethu, ac os ydych chi'n credu mewn gwasanaethu pobl Cymru, dylech bleidleisio dros ein cynnig.