7. Dadl Plaid Cymru: Datganoli treth incwm

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 6:20, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, yn sicr mae wedi bod yn ddadl ddadlennol, os braidd yn ddigalon ar ei therfyn, gyda sylwadau'r Gweinidog, ond hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd ati. Mae Peter Fox yn ddyn rhesymol—nid wyf yn siŵr os gallaf ddweud hynny'n fwy cyffredinol, rhaid dweud—ond rwy'n credu mai'r pwynt canolog yma, Peter, yw hwn: os oes gennym y pwerau hyn, nid oes pwynt cael pwerau os ydynt yn anhygoel o anodd i'w defnyddio. Ac ar hyn o bryd, gyda chyfraddau wedi'u datganoli ond nid bandiau, mae'n golygu nad oes gennym allu mewn gwirionedd i ddefnyddio'r pwerau i'r eithaf. A dyna yw'r galw rhesymol mewn gwirionedd. A gallwch gyflwyno eich achos o ran eich dyheadau ynglŷn â sut i'w defnyddio ac fe wnawn ninnau yr un fath, ond onid dyna sut mae atebolrwydd democrataidd i fod i weithio? A dyna, yn y bôn, yw'r pwynt craidd a wnaeth fy nghyd-Aelod Luke Fletcher, fod polisi cyllidol yn hanfodol i fod yn senedd, onid yw? Mae angen inni fod yn atebol i'r cymunedau rydym i fod i'w gwasanaethu ac ar hyn o bryd, heb y pwerau llawn hyn, ni allwn wneud hynny.

Rwy'n cytuno â Mike—dylwn fod wedi cymryd ymyriad nawr, Mike; rwy'n ymddiheuro. Fe gyfeirioch chi at ddatganoli anghymesur, a gadewch inni gofio bod y polisi rydym yn ceisio cael Llywodraeth Lafur i'w fabwysiadu yma yn gynnig Llafur. Drwy'r Addewid, drwy gomisiwn Smith, polisi Llafur oedd hwn, cynnig Llafur, ac eto yma yng Nghymru, gyda'r un Lywodraeth y mae'r Blaid Lafur yn ei rhedeg, maent yn ei wrthwynebu. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn hefyd, Mike, fod yna agenda ehangach. Mae'n rhaid inni edrych ar incwm difidend, incwm o gynilion, ac yn y blaen. Rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar dreth enillion cyfalaf yn ogystal i sicrhau, pan fyddwch chi'n datganoli'r pwerau ac yn eu defnyddio, nad oes bylchau mewn gwirionedd. Fe fyddaf yn garedig fel chi a siarad am osgoi treth yn hytrach nag unrhyw beth arall. Felly, gadewch inni edrych ar hynny a gadewch inni edrych ar y gydberthynas ag yswiriant gwladol hefyd, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn galw amdano. 

Mae Sioned Williams yn iawn ein bod yn gweld mwy o ddatganoli pwerau trethu yng Ngwlad y Basg. Yn wir, gellid dadlau bod gan gynghorau taleithiol Gipuzkoa a Bizkaia hyd yn oed bwerau treth mwy ffurfiol nag sydd gennym ni yma. Felly, yn sicr rydym oddi allan i'r brif ffrwd, onid ydym? Hyd yn oed nawr, hyd yn oed ar ôl 20 mlynedd a mwy o ddatganoli yng ngwladwriaeth hynod ganolog y DU. A dyna graidd y cynnig hwn, ceisio rhyddhau ein hunain o hynny.

Carwn ddweud bod Delyth Jewell wedi ein hatgoffa bod angen inni dorri'r naratif asgell dde negyddol ynghylch treth a gwariant cyhoeddus. Mae arweinyddiaeth Llafur yn San Steffan ac yn ehangach yn syrthio i fagl yma yn fy marn i, yn y math o iaith y mae'n ei defnyddio, oherwydd yn y pen draw, yn lle siarad am feichiau treth yn unig, mae angen inni siarad am ysgogiadau treth, am arfau treth ac offerynnau treth, oherwydd trethiant yn y pen draw, refeniw, yw'r modd y cynhyrchwn y sail ar gyfer gwariant cyhoeddus, i wneud popeth a wnawn yn y lle hwn ar gyfer y bobl a gynrychiolwn, a dylem wneud yr achos cadarnhaol hwnnw.

Dyna pam y dylem gael y pwerau, a dyna pam y cefais fy siomi gymaint gan ymateb y Llywodraeth—Llywodraeth sydd wedi sôn am ffederaliaeth radical. Nid oes dim yn y polisi y mae'r Gweinidog wedi'i gyhoeddi, yn gwrthod hyn, y gallech ei ddisgrifio fel 'ffederalaidd' na 'radical'. Mae yna ddau ansoddair y gallaf eu cysylltu â'r hyn rwy'n ei glywed gan y Gweinidog, sef 'ceidwadol' ac 'unoliaethol'. Ble mae'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol—? [Torri ar draws.] Wel, fe fyddwch chi'n pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr ar y cynnig hwn, oni fyddwch, drwy wrthod ein safbwynt? Oherwydd yn y bôn nid ydych yn derbyn yr achos rydym wedi'i gyflwyno, sef oni bai ein bod yn datganoli'n llawn mewn gwirionedd, ni fyddwn yn gallu goresgyn yr her rydym wedi'i gosod i ni ein hunain i greu'r math o gymdeithas weddus—. Ac nid wyf yn ei weld; ble mae'r radicaliaeth yn eich gweledigaeth gyfansoddiadol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar beth mae'r Gweinidog cyllid wedi'i ddweud wrthym?