7. Dadl Plaid Cymru: Datganoli treth incwm

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:12, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am dderbyn ymyriad. Gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gydnabod nad yw hwn yn gynnig i gynyddu bandiau trethiant; mae'n ymwneud ag egwyddor. Mae hi wedi cydnabod bod hon yn ddadl bwysig i'w chael, a'i bod am ei chael eto, ond a wnaiff hi roi ymrwymiad i fynd i'r afael â pham na all hi fel Gweinidog, a'r Llywodraeth hon, a Llafur, gefnogi'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn ein cynnig heddiw, oherwydd dyna yw'r allwedd i'r ddadl hon?