Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 8 Chwefror 2023.
Iawn, byddaf yn siarad yn araf iawn, iawn. Ac felly, byddaf yn symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. A dweud y gwir, mae'n rhaid i fi ffeindio'r sgrin hefyd. Ac felly, y bleidlais gyntaf fydd ar eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar borthlathoedd rhydd. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.