Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 8 Chwefror 2023.
Mae'r dirwedd ymchwil feddygol yn eang, o ariannu ymchwil labordy cyn-glinigol i'r ymchwil glinigol fwy cymhwysol sy'n digwydd yn y GIG. Mae fy nghyfrifoldebau yn canolbwyntio ar ymchwil feddygol fwy cymhwysol, sydd, yn fy marn i, yn gwneud cyfraniad hanfodol i drin, datblygu a gwerthuso, i drefnu a darparu gwasanaethau, ac yn hollbwysig, i ganlyniadau cleifion. Rwy'n ymwybodol o waith y grŵp trawsbleidiol ar ymchwil feddygol a gadeirir gennych, Russell, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld eich adroddiad newydd, oherwydd rwy'n gwybod bod yr argymhellion mewn adroddiadau blaenorol wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni.
Fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae'r cyllid rwy'n ei ddarparu drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r dirwedd ymchwil feddygol. Rwy'n falch o ddweud fy mod, y llynedd, wedi cytuno ar gynnydd ychwanegol rheolaidd o £5 miliwn i gyllideb Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Fe'i defnyddir i gefnogi gweithrediad strategaeth ymchwil canser Cymru, i greu canolfan ymchwil newydd ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, ac i ariannu canolfan dystiolaeth a fydd yn nodi ac yn ateb cwestiynau o bwys mawr i bolisi ac ymarfer. Fe'i defnyddir hefyd i gynnig cynlluniau gwobrau personol newydd i gefnogi meithrin capasiti yn y GIG a'r sectorau gofal cymdeithasol, a fydd yn gwella ein rhaglen gomisiynu ymchwil ac yn cefnogi modelau newydd ar gyfer cyflawni ymchwil glinigol. Mae'r buddsoddiad newydd hwn yn ategu'r £42 miliwn a werir gennym yn flynyddol ar ein seilwaith ymchwil iechyd a gofal ledled Cymru, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer gweithlu ymchwil y GIG, ein canolfannau a'n hunedau ymchwil, ein cynlluniau cyllido ymchwil, a'n gwaith partneriaeth.
Ond mae pawb yn deall heriau'r amgylchedd ariannol presennol. Rwy'n ofni bod y sefyllfa'n cael ei gwaethygu gan agwedd Llywodraeth y DU tuag at gronfa ffyniant gyffredin y DU, sy'n cymryd lle cyllid yr UE, sy'n golygu bod Cymru gyfan yn waeth ei byd, ynghyd â'r ansicrwydd ynghylch mynediad at raglen ariannu'r UE, Horizon Europe, yn y dyfodol. Rwy'n pryderu hefyd fod oedi cyn cysylltu â rhaglen Horizon, os gwnawn hynny byth, yn peryglu ein gwaith ymchwil rhyngwladol ar y cyd ar ymchwil feddygol. Mewn sawl ffordd, mae'r hinsawdd ariannol yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio.
Rydym yn cydweithio ac mae gennym bartneriaethau gyda llawer o sefydliadau. Er enghraifft, rydym yn rhan o fenter Ymchwil Data Iechyd y DU a weinyddir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a Phartneriaeth Ymchwil Atal y DU, ac maent yn gynghreiriau traws-gronfa. Rydym yn cyd-ariannu Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd gydag Ymchwil Canser y DU, sy'n galluogi cleifion i gael mynediad at dreialon clinigol cyfnod cynnar, ac yn trosi darganfyddiadau gwyddonol yn driniaethau canser newydd. Mae gennym bartneriaethau gweithredol sy'n ariannu rhaglenni ymchwil penodol gyda Scar Free Foundation a Fight for Sight. Rydym yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni ariannu ymchwil yn y DU a weithredir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr, sy'n rhoi mynediad i ymchwilwyr Cymreig at ffrydiau ariannu mawr gwerth miliynau o bunnoedd ar draws y sbectrwm ymchwil iechyd.
Fodd bynnag, ni allwn sicrhau llwyddiant heb gael amgylchedd ymchwil meithringar ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Mae staff sy'n cael eu hysgogi gan dystiolaeth yn fwy tebygol o ddefnyddio arloesedd a gwelliant i ddatblygu ffyrdd o weithio sy'n sbarduno newid a budd i gleifion. Felly, mae gyrfaoedd ymchwil yn rhoi boddhad mawr, ac mae gan sefydliadau sy'n weithgar ym maes ymchwil allu cryfach i ddenu'r staff gorau a'u cadw. A dyna pam, y llynedd, y gwnaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru ddechrau adolygiad ar y cyd o lwybrau gyrfa a hyfforddiant ymchwil a nododd argymhellion yn yr adroddiad, 'Hyrwyddo gyrfaoedd mewn ymchwil: adolygiad o gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol'.
Mae gennym opsiynau triniaeth newydd yma yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn ymchwil, a all fod yn arbennig o bwysig ar gyfer cyflyrau lle nad oes unrhyw opsiwn arall wedi gweithio. Mae dros 500 o astudiaethau'n digwydd yn y GIG yng Nghymru sy'n hygyrch i'n poblogaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys cyflyrau megis clefyd niwronau motor, COVID hir, asthma, canser a diabetes. Rydym hefyd yn gweld datblygiadau enfawr mewn meysydd fel genomeg, delweddu'r ymennydd a therapïau datblygedig, sy'n allweddol i ddarganfod triniaethau yn y dyfodol. Ond rydym i gyd yn cydnabod bod gwasanaethau'r GIG o dan bwysau digynsail ac mae ymgymryd ag ymchwil yn heriol. Rydym wedi gweld effaith y pandemig, ynghyd â phwysau ar y gweithlu, yn cael effaith wirioneddol ar gapasiti ymchwil yn y GIG. O'r herwydd, ni fu erioed adeg bwysicach i fuddsoddi yn ein gweithlu cyflawni ymchwil penodedig a rhoi dyfarniadau amser ymchwil y GIG drwy'r gyfadran.
Yn ddiweddarach y gwanwyn hwn, bydd fframwaith ymchwil a datblygu'r GIG, sydd wedi'i gydgynhyrchu gyda'r GIG, yn cael ei gyhoeddi ar ei newydd wedd, i ddisgrifio sut beth yw sefydliad GIG sy'n perfformio ar lefel uchel ac sy'n weithredol ym maes ymchwil, ac mae angen inni fanteisio hefyd ar ein cryfderau mewn data iechyd, gan greu seilwaith digidol newydd, i gyflymu'r ddarpariaeth astudio a'i gwneud yn fwy effeithlon.
Cyn i mi grynhoi, rwyf am ganolbwyntio ar y gwahaniaeth gwirioneddol y gall ymchwil ei wneud i fywydau pobl, cleifion a chymunedau. Rydym wedi gweld, yn enwedig pan oedd y pandemig ar ei anterth, pa mor hanfodol yw gwaith ymchwil da i helpu i ddarparu gofal cleifion, triniaeth a brechlynnau wrth gwrs. Mae Cymru'n arwain mewn meysydd datblygu ymchwil, sy'n cael effaith wirioneddol nid yn unig ar gleifion Cymru, ond ar draws y DU.