9. Dadl Fer: Manteision ymchwil meddygol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 8 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 6:31, 8 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n rhoi munud o fy amser i Mike Hedges a Rhun ap Iorwerth hefyd. Ar hyn o bryd rydym yn wynebu pwysau eithafol ar ein GIG, ein hiechyd, a'n heconomi, ac mae'n rhaid i'n hymateb i'r pwysau eithafol hwn ddarparu atebion hirdymor hefyd sy'n gwella bywydau pobl yng Nghymru.

Yn ogystal â minnau fel cadeirydd, mae David Rees, Altaf Hussain, Jayne Bryant, Mike Hedges a Sioned Williams oll yn aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar ymchwil feddygol. Lansiwyd ein hymchwiliad yn ôl yn 2021 i sefydlu manteision ymchwil feddygol i Gymru. Mae disgwyl i'r grŵp trawsbleidiol gyhoeddi ei adroddiad yr hydref hwn, ond mae ein canfyddiadau hyd yma yn amlinellu manteision real amgylchedd ymchwil feddygol ffyniannus yn y tymor byr, canolig a hir. Mae'r farn hon wedi ei chefnogi gan bobl Cymru. Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, mae mwyafrif llethol o 82 y cant o bobl Cymru yn credu ei bod yn bwysig i ymchwil feddygol ddigwydd yma.

Hyd yn hyn, rydym wedi clywed tystiolaeth gan glinigwyr, cleifion, economegwyr, ymchwilwyr, cyllidwyr a diwydiant ac rydym wedi clywed yn ddigamsyniol fod ymchwil feddygol yn arwain at fanteision enfawr i economi Cymru, cleifion yng Nghymru a GIG Cymru. Ar y manteision economaidd, clywodd y grŵp trawsbleidiol dystiolaeth gan Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. Rhoddodd y ddau gyfraniad dystiolaeth sylweddol fod ymchwil feddygol yn rhan hanfodol o economi Cymru. Mae'r rhai sy'n derbyn arian ymchwil yn prynu nwyddau a gwasanaethau er mwyn cyflawni'r ymchwil ac mae hyn yn creu gweithgarwch yn y gadwyn gyflenwi ac ar draws economi Cymru gyfan.

Gall ymchwil feddygol hybu allbwn a chynhyrchiant yn yr economi, gyda thechnolegau, meddyginiaethau a phrosesau newydd, ac wrth i ddulliau a thechnolegau newydd gael eu darganfod, mae gwybodaeth yn lledaenu i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan hybu cynhyrchiant a'r twf economaidd ymhellach. Mae modelu economaidd a gomisiynwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn dangos bod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau'n unig yn cyfrannu £86 miliwn mewn allbwn a £55 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros, a 950 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'r 950 o swyddi hyn yn rolau o ansawdd uchel ar gyflogau uchel. Pwysleisiodd Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wrth y grŵp trawsbleidiol y bydd cynyddu buddsoddiad mewn gwyddoniaeth yn helpu i ddarparu swyddi o ansawdd uchel a fyddai'n sbarduno dyfodol economi Cymru.

Wrth gymryd tystiolaeth gan gleifion, clinigwyr ac ymchwilwyr, mae'r grŵp trawsbleidiol wedi gweld o lygad y ffynnon y manteision enfawr y gall ymchwil feddygol eu darparu i gleifion. Mae datblygiadau arloesol mewn ymchwil feddygol yn creu gwelliannau mewn perthynas ag atal, diagnosis a thrin cyflyrau, gan wella profiad cleifion, ansawdd bywyd a chanlyniadau meddygol. Mae cleifion Cymru'n elwa bob dydd o ddatblygiadau meddygol sy'n digwydd ym mhob cwr o'r byd, ond mae budd enfawr i gleifion hefyd os yw ymchwil feddygol yn digwydd yma yng Nghymru. Clywodd y grŵp trawsbleidiol fod cleifion sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol yn cael gofal o'r safon uchaf, ac oherwydd rheoliadau llym mewn treialon clinigol, mae'r cleifion hyn yn fwy tebygol o gael profiad gwell, triniaeth well a gwell canlyniadau na chleifion nad ydynt yn cymryd rhan mewn treialon clinigol. Er enghraifft, ceir datblygiadau ym maes clefyd niwronau motor ar draws y DU gyfan, ac rwy'n credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at y treialon clinigol hynny.

Fe wnaeth cleifion a chlinigwyr dynnu sylw hefyd at dystiolaeth i'r grŵp trawsbleidiol fod cleifion sy'n mynd i ysbyty gydag amgylchedd ymchwil cadarnhaol yn cael gwell canlyniad. Gallai fod sawl rheswm am hyn wrth gwrs, ond mae'r grŵp trawsbleidiol wedi ystyried y gallai ysbytai sy'n weithredol ym maes ymchwil fod â mwy o wybodaeth a seilwaith mwy datblygedig. Efallai y bydd ysbytai sy'n weithredol ym maes ymchwil yn ei chael hi'n haws gweithredu arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gweithdrefnau arloesol, a gall diwylliant arloesi o'r fath alluogi ysbytai sy'n weithredol ym maes ymchwil i weithredu a dilyn y canllawiau clinigol diweddaraf, gan ddarparu'r gofal gorau i gleifion.

Mae'r gallu hwn i newid ac arloesi yn gwbl hanfodol os yw ein GIG i ymadfer o'r pwysau eithafol a deimlir ar draws y gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae ymchwil feddygol yn darparu cyfleoedd diddiwedd ar gyfer arbed costau yn y GIG, yn ogystal â gyrru arloesedd ac arferion symleiddio. Clywodd y grŵp trawsbleidiol gan y diwydiant fferyllol fod pob claf sy'n cymryd rhan mewn treial clinigol yn cynrychioli arbediad o £9,000 i'r GIG. Dyna £9,000 y claf. Gallaf weld y Gweinidog yn edrych ar hynny gyda gwên ar ei hwyneb efallai.

Ond un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu ein GIG, wrth gwrs, yw recriwtio, cadw a chefnogi staff y GIG. Mae'r grŵp trawsbleidiol wedi gweld tystiolaeth fod amgylchedd ymchwil feddygol ffyniannus yn gwbl hanfodol i unrhyw gynlluniau ar gyfer y gweithlu. O sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Meddygon a chlinigwyr, clywodd y grŵp trawsbleidiol fod y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil feddygol yn bwysig i yrfaoedd clinigwyr. Dywedodd clinigwyr fod cymryd rhan mewn ymchwil feddygol yn cefnogi eu datblygiad gyrfaol, eu morâl ac felly, eu gallu i ofalu am eu cleifion. Byddai darparu'r cyfle hwn i glinigwyr nid yn unig yn cefnogi cadw staff, ond gallai wella ymgyrchoedd recriwtio hyd yn oed, drwy wneud GIG Cymru yn lle mwy deniadol i weithio, a byddai hyn yn dod â mwy o arbenigedd i mewn i Gymru ac yn dechrau llenwi swyddi gwag hanfodol ar draws y gwasanaeth iechyd. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, roedd dwywaith a hanner cymaint o geisiadau am bob swydd yng Nghymru pan hysbysebwyd elfen academaidd gyda'r swydd.

Dengys adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain fanteision enfawr a allai gael eu rhyddhau ledled y DU a Chymru pe bai'r weledigaeth ar gyfer gwyddorau bywyd yn cael ei gweithredu'n llawn. Yn ôl yr adroddiad, byddai'r GIG yn cynhyrchu £165 miliwn ychwanegol y flwyddyn mewn refeniw a £32 miliwn mewn arbedion cost pe bai lefelau recriwtio i dreialon diwydiant yn y DU yn codi ar yr un lefel â Sbaen, er enghraifft. Byddai'r DU yn creu £68 biliwn mewn cynnyrch domestig gros ychwanegol dros y 30 mlynedd nesaf pe bai gwariant diwydiant fferyllol y DU ar ymchwil a datblygu yn codi ar yr un lefel â'r Unol Daleithiau. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ei strategaeth arloesi ddrafft, ond mae'n rhaid cael cyfalaf ac arweinyddiaeth uchelgeisiol i gefnogi hyn os ydym am deimlo manteision ymchwil feddygol mewn gwirionedd.

Diolch i'r llu o sefydliadau a gynorthwyodd drwy gyfrannu at y ddadl fer hon heddiw, ac yn enwedig i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru a Gemma Roberts. Diolch yn fawr iawn.