Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Chwefror 2023.
Os gallaf newid i'r sector arall yn eich portffolio, o amaethyddiaeth i ddyframaethu a physgodfeydd, mae'r data diweddaraf ar y diwydiant pysgota yng Nghymru yn dangos i ni fod pysgod asgellog a physgod cregyn a ffermir wedi gweld gostyngiad enfawr o 82 y cant yn eu gwerth rhwng 2019 a 2021. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld glaniadau fflydoedd pysgota Cymru yn gostwng 75 y cant yn eu pwysau a 41 y cant yn eu gwerth. Mae eu proffidioldeb hefyd wedi gostwng yn sylweddol. Rydym yn gweld dirywiad un o'n sectorau hynafol—rhan o'n bywyd arfordirol a'n diwylliant a'n hunaniaeth yn diflannu o flaen ein llygaid. Nid yw'r darlun yn wahanol yn y sector prosesu. Erbyn 2021, dim ond 28 o swyddi cyfwerth ag amser llawn oedd gyda ni yn y sector prosesu yma yng Nghymru. Yn yr Alban ar y llaw arall, maent yn cyflogi 7,789 yn y sector prosesu. Weinidog, a yw hon yn sefyllfa dderbyniol, ac a wnewch chi edrych eto ar gynyddu'n sylweddol y buddsoddiad a'r cymorth i bysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru?