Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 15 Chwefror 2023.
Mae'n anodd credu ei bod hi wedi bod yn flwyddyn ers inni gael ein dadl olaf yma yn y Senedd, ar ddechrau'r rhyfel. Mae'n anodd credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny. Rwy'n meddwl ei bod yr un mor anodd deall y creulondeb a'r dioddefaint sydd wedi digwydd yn Wcráin ers hynny. Dyma'r argyfwng hiwmanitaraidd mwyaf yn Ewrop ers yr ail ryfel byd, gyda miliynau wedi'u dadleoli, dros 7,000 o sifiliaid Wcráin wedi'u lladd, bron i 500 ohonynt yn blant. Mae dinasoedd cyfan, gan gynnwys Mariupol a Bakhmut, pentrefi a threfi dirifedi wedi cael eu chwalu i'r llawr gan luoedd Rwsia. Cafwyd cannoedd o filoedd o farwolaethau ac anafiadau ar ochr Wcráin a Rwsia. Ond rhaid inni beidio ag anghofio bod Wcráin yn wladwriaeth sofran, sydd wedi creu ei llwybr democrataidd ei hun ers iddi ddod yn annibynnol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd dros 30 mlynedd yn ôl. Mae ganddi hawl i hunanbenderfyniaeth. Ein dyletswydd ni felly, o un Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd i'r llall, yw cefnogi'r sifiliaid diniwed a ddaliwyd yn y rhyfel barbaraidd a dibwrpas hwn. Rwy'n credu bod pob un ohonom yma'n teimlo'n ostyngedig iawn wrth weld dewrder dinasyddion cyffredin yn amddiffyn eu gwlad.
Mae hefyd wedi bod yn wythnos ers i ddatganiad hanesyddol Llundain gael ei arwyddo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Wcráin. Fe wnaeth ailddatgan ymrwymiad y DU i helpu i dynnu lluoedd Rwsia o diriogaeth Wcráin a chefnogi adferiad a dyfodol hirdymor Wcráin, gan gynnwys gwaith i atgyweirio difrod i gyflenwadau ynni a gweithio gyda'n gilydd i helpu i sicrhau bod grawn Wcráin yn cyrraedd marchnadoedd y byd unwaith eto. Mae'r datganiad yn ffurfioli cynllun strategol i helpu Llywodraeth Wcráin a'i phobl yn ôl ar eu traed yn y tymor hir. Rwy'n falch iawn o weithredoedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hyd yma i helpu pobl Wcráin i ennill eu gwlad yn ôl, o drefnu sancsiynau rhyngwladol i hyfforddi milwyr Wcráin i ymrwymo £4.6 biliwn mewn cymorth milwrol dros ddwy flynedd i ddarparu bron i 0.25 miliwn o fisas i Wcreiniaid sy'n ceisio dod i'r DU a £1.3 biliwn mewn cefnogaeth gyllidol. Mae'n amlwg ein bod yn barod i wynebu'r ymosodwyr hyn gyda'n gilydd. Rwyf hefyd yn falch fod cymaint o Gymry wedi agor eu cartrefi i ffoaduriaid, fel y nodwyd gennym yn barod, ond rwy'n meddwl bod mwy y gallwn ei wneud yma i gadw'r croeso'n gynnes wrth inni nesáu at flwyddyn ers i'r gwrthdaro ddechrau.
Rwy'n pryderu wrth glywed bod hanner y ffoaduriaid o Wcráin sy'n cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru wedi treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yma mewn gwestai neu leoliadau eraill na chawsant eu cynllunio ar gyfer aros ynddynt yn hirdymor. Mae ffoaduriaid Wcreinaidd sydd wedi ei chael hi'n anodd gadael eu cartrefi nawdd wedi ei chael hi'n anos fyth dod o hyd i lety addas, gan eu bod yn honni bod landlordiaid yn amharod i adael iddynt rentu oherwydd diffyg sefydlogrwydd a'u henillion. Mewn gwirionedd, fe gysylltodd un ffoadur o Wcráin â mi yn gynharach heddiw gyda'r union broblem honno: roeddent yn poeni am adael y gwesty roeddent wedi bod yn aros ynddo, roeddent yn poeni y gallent orfod symud o un lleoliad i'r llall a'r effaith y gallai hynny ei chael ar addysg eu plentyn, am eu bod newydd gofrestru mewn ysgol yng Nghymru, rhywbeth a oedd i'w groesawu'n fawr. Ond mewn gwirionedd, os cânt eu symud i leoliad gwahanol, efallai y bydd yn rhaid iddynt ddadwreiddio a newid unwaith eto, sy'n bryder gwirioneddol iddynt. Felly, er bod yr ewyllys yno ar y dechrau, mae'n rhaid inni fynd ychydig pellach i sicrhau bod yr Wcreiniaid sydd wedi gwneud y daith hon i Gymru yn cael eu cefnogi drwy gydol y rhyfel, fel y gallant naill ai ddewis aros yma yn y diwedd, os mai dyna y dymunant ei wneud, neu ddychwelyd adref pan fydd hi'n ddiogel iddynt wneud hynny.
Yma, gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo cynghorau i baratoi ar gyfer grwpiau mawr o bobl drwy ryddhau tai a darparu addysg a gofal iechyd fel bod cyn lleied o aflonyddu â phosibl i deuluoedd sy'n aros yma. Mae posibilrwydd hefyd o weithio gyda landlordiaid preifat a chymdeithasau tai i ryddhau llety addas yn y tymor hir. Rydym yn cytuno felly fod angen i Lywodraeth Cymru lunio cynllun hirdymor, gan nad ydym yn gwybod pryd y gwelwn ddiwedd ar y rhyfel, yn anffodus, ac ni wyddom pa mor hir y bydd yn ei gymryd i helpu i ailadeiladu Wcráin yn y dyfodol.
Ond i orffen ar nodyn cadarnhaol, mae gennyf enghraifft wych o bartneriaeth gymunedol gyda ffoaduriaid Wcreinaidd yn Abertawe. Rai misoedd yn ôl, fe wnaeth ffoaduriaid o Wcráin wirfoddoli i dacluso a dechrau prosiect ym muarth yr uned blastig a llosgiadau yn Ysbyty Treforys. Mae'r gwytnwch, yr ysbryd cymunedol hwn a'r awydd i roi rhywbeth yn ôl yn rhywbeth y dylem ei gofio ac y dylem ei gefnogi, yn enwedig o ystyried bod y ffoaduriaid hyn wedi gadael eu mamwlad heb fawr ddim. Oherwydd am bob gweithred o ddrygioni yn y byd hwn—ac mae'r rhyfel hwn wedi tynnu sylw at rai o'r pethau mwyaf anfad y gallwch eu dychmygu—rhaid inni beidio ag anghofio bod llawer iawn mwy o weithredoedd o garedigrwydd sy'n arddangos y gorau o'r ysbryd dynol, ac nid oes unrhyw wlad, yn fy marn i, yn arddangos hynny'n fwy yn y byd na'r hyn a welsom gan Wcreiniaid dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar am gael cyfrannu yn y ddadl hon. Sláva Ukrayíni.