Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Chwefror 2023.
Llywydd, bywiogrwydd parhaus yr economi yn y gogledd-ddwyrain yw'r cymorth gorau un i bobl ifanc sy'n dechrau gweithio yn etholaeth yr Aelod. I'r rhai ymhellach o'r farchnad lafur, mae'r warant i bobl ifanc yn cynnig amrywiaeth o gymorth i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith, a'u gosod ynddo.