Canolfan Iechyd a Lles ym Mangor

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:01, 28 Chwefror 2023

Roeddwn i yn siomedig iawn o glywed fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cais am £15 miliwn tuag at y cynllun pwysig yma. Unwaith eto, dyma'r Torïaid yn anwybyddu Bangor ac yn dangos cyn lleied maen nhw'n poeni am bobl Arfon a phobl yng ngogledd-orllewin Cymru. Ond dwi yn benderfynol o barhau i ymgyrchu dros y cynllun yma a chefnogi ymdrechion Cyngor Gwynedd, a'r holl bartneriaid, i ddod â chanolfan iechyd newydd i ganol y ddinas a fyddai'n rhoi hwb anferth i siopau'r stryd fawr yn ogystal â gwella cyfleusterau iechyd. Fel roeddech chi yn ei ddweud, mae'ch Llywodraeth chi hefyd yn gefnogol i'r cynllun yma ac wedi ymrwymo i roi arian tuag ato fo. A fedrwch chi gadarnhau bod yr arian hwnnw yn dal ar y bwrdd, er gwaethaf y ffaith na welodd y Torïaid yn dda i gwblhau'r pecyn ariannol? Ac a wnewch chi ymrwymo i wneud popeth posib er mwyn gwireddu'r prosiect pwysig yma?