Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 28 Chwefror 2023.
Llywydd, gweithredu cynigion comisiwn Burns sy'n darparu'r ffordd fwyaf effeithiol o hyrwyddo teithio cynaliadwy. Mae'r cyhoeddiad y mis hwn yn adroddiad blynyddol uned gyflawni Burns yn nodi'r cynnydd go iawn a wnaed eisoes, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain.