Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 28 Chwefror 2023.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor—y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel y dywedoch chi, Llywydd. Rydym ni wedi cynnig dau adroddiad ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol, memorandwm atodol Rhif 2 a memorandwm atodol Rhif 3 ym mis Rhagfyr y llynedd. Fe wnaethom ni adrodd ar femorandwm atodol Rhif 4 ar 13 Ionawr. Llywydd, fel yr esboniais mewn llythyr at y Pwyllgor Busnes, yn anffodus, nid oedd gennym ni ddigon o amser i adrodd ar y memorandwm atodol diweddaraf, Rhif 5, a gyflwynwyd ar 15 Chwefror—y diwrnod cyn yr unig gyfarfod lle'r oeddem ni'n gallu ei ystyried.
Rydym ni'n nodi bod Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd darpariaethau yn berthnasol i'r oddeutu 530 o eiddo tai cymdeithasol yng Nghymru sy'n eiddo i ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru yn Lloegr neu'n cael eu rheoli ganddyn nhw, ac na fydd y mwyafrif llethol o dai cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu heffeithio. Rydym ni hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y Bil yn dod â newidiadau cadarnhaol i'r tenantiaid hynny yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio. Ond rydym ni'n credu nad yw'r amser byr a neilltuwyd i'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn ddigonol i ganiatáu i ni ddeall yn llawn effaith darpariaethau ar fywydau pobl yng Nghymru. Ac rydym ni'n pryderu y gall deddfu fel hyn roi pobl o dan anfantais yng Nghymru oherwydd bod ganddyn nhw lai o gyfleoedd i rannu eu safbwyntiau â'r rhai sy'n llunio'r ddeddfwriaeth, ac nid yw'r cyfle gennym ni i brofi'r darpariaethau gyda rhanddeiliaid yng Nghymru.
Mae'r pwyllgor yn rhwystredig iawn nad oeddem ni'n gallu craffu ar y darpariaethau ym memorandwm Rhif 5 ac adrodd ein sylwadau i'r Senedd cyn y ddadl hon. Oherwydd iddo gael ei gyflwyno y diwrnod cyn ein cyfarfod, dim ond am gyfnod byr iawn y llwyddwyd i ystyried y darpariaethau. Mae'r aelodau yn teimlo'n gryf bod cael un cyfarfod yn unig i ystyried ac adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn annigonol. Ddwywaith, Llywydd, rwyf i wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ar ran y pwyllgor i amlinellu ein pryderon ynghylch y defnydd cynyddol o Filiau'r DU a'r confensiwn cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfu mewn meysydd datganoledig.
Er gwaethaf y pryderon hyn, mae'r mwyafrif o aelodau'r pwyllgor yn teimlo y gallan nhw argymell y dylai'r Senedd roi ei chydsyniad i ddeddfu ar y materion datganoledig yn y memorandwm cychwynnol a memoranda Rhifau 2 i 4. Mae un aelod o'r pwyllgor, Mabon ap Gwynfor AS, yn anghytuno â barn y mwyafrif ac yn credu na ddylid rhoi cydsyniad. O gofio'r amser a oedd ar gael i graffu ar femorandwm atodol Rhif 5, nid ydym mewn sefyllfa i fynegi barn ynghylch a ddylid argymell i'r Senedd ei bod yn rhoi neu'n gwrthod cydsyniad deddfwriaethol o ran y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn y memorandwm diweddaraf.
Llywydd, hoffwn gloi drwy ailadrodd ceisiadau blaenorol y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pwyllgorau yn cael yr amser a'r wybodaeth angenrheidiol i allu chwarae rhan ystyrlon yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.