Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 28 Chwefror 2023.
Diolch am y gyfres hir o gwestiynau. Wna i ddim rhoi prawf ar amynedd y Dirprwy Lywydd drwy roi ateb hir i bob un o, rwy'n credu, y 10 maes gwahanol. Edrychwch, ar y cynllun gweithredu a chyflawni, rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n cael ei ddarparu mewn mater o fisoedd, a dylai hynny ein helpu, gan ei bod i fod yn ddogfen fyw, i wneud yn siŵr bod gennym gerrig milltir a mesurau o fewn hynny i fynd ochr yn ochr â'r cenadaethau ehangach. Rydym wedi gwneud dewisiadau yn y strategaeth hon. Edrychwch ar y meysydd hynny lle mae gennym ni gryfderau gwirioneddol sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru ac mewn gwahanol rannau o Gymru—y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin—ond sydd hefyd yn edrych ar ardaloedd posibl ar gyfer cryfder yn y dyfodol. Nawr, mae hynny'n ymwneud â sut rydyn ni'n ceisio adeiladu ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a'r hyn rydyn ni'n dda iawn yn ei wneud yma yng Nghymru, yn hytrach na cheisio gwneud ychydig o bopeth, ac felly, fe welwch chi hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun cyflawni rydych chi wedi cyfeirio ato.
Nawr, fe geisiaf i ymdrin â rhai o'ch pwyntiau am ganlyniadau eraill hefyd. Rydyn ni eisiau gweld canlyniadau a gweld pethau'n cael eu trosi. Mae'r adolygiadau y byddwn yn eu cynnal ar ôl un, tair a phum mlynedd—mae'r adolygiad blwyddyn gyntaf yn bwysig iawn i ddeall ein bod ni'n dal i wneud y cynnydd a nodir gennym yn y genhadaeth, ond, hefyd, oherwydd bod nifer o'r darnau ariannu yn ansicr o hyd ar hyn o bryd. Mae pwynt o ran a fydd Llywodraeth y DU wir yn cyflawni ei chenhadaeth i ddefnyddio cryn dipyn o brif gyllideb ar arloesi i wneud yn siŵr nad yw'n mynd i'r triongl euraidd o amgylch Oxbridge a chwpl o brifysgolion yn yr Alban. Bydd hefyd yn bwysig gweld beth sy'n digwydd gyda'r dirwedd gymharol ddryslyd—byddaf mor gwrtais ag y gallaf—mewn cronfeydd ôl-UE, ac, mewn gwirionedd, mae dryswch polisi yn y fan honno yn ogystal â phethau sy'n anghyson. Rydyn ni'n mynd i geisio bod â dull mwy cydlynol, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag ystod o bobl wrth wneud hynny yn y cyfnod cyn lansio'r strategaeth hon hefyd. Mae hynny'n cynnwys busnesau yn ymwneud â hynny, mae'n cynnwys addysg uwch ac addysg bellach, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bobl sydd eisoes wedi ymgysylltu. Mae yna hefyd ddarn o waith anorffenedig yn Llywodraeth y DU ac mae yna adolygiad y mae Syr Paul Nurse wedi bod yn ei wneud—bydd hynny'n cael effaith ar y dirwedd ariannu a rhai blaenoriaethau y bydd angen i ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw hefyd.
Rwy'n disgwyl, pan fyddwn ni'n dod at y tîm arloesi sydd wedi'i leoli yn fy adran i, a'u gwaith nhw nid yn unig i gydlynu'r hyn sy'n digwydd o fewn y Llywodraeth, ond eu gwaith nhw gyda rhanddeiliaid allanol hefyd—. Oherwydd, yn aml, mewn gwlad maint Cymru, mae pobl yn edrych at Lywodraeth Cymru i barhau â rhywfaint o arweiniad i helpu i fonitro a rheoli, ond denu'r rhanddeiliaid eraill hynny, sef yr hyn yr ydyn ni eisoes wedi bod yn ei wneud. Ond rydyn ni hefyd, er hynny, yn gobeithio bod â chynllun cyflawni ar y cyd, cynllun gweithredu ar y cyd, gydag Innovate UK, a dyna'r tro cyntaf i ni allu gwneud hynny, i sicrhau cytundeb ar hynny, ac maen nhw'n gobeithio gwneud hynny ar sail y strategaeth yr ydyn ni wedi'i lansio heddiw. Felly, rydyn ni wedi ceisio bod ag agwedd gydlynol at yr hyn rydyn ni'n mynd i'w wneud. Dylai hynny ein helpu ni gyda ffrydiau ariannu yn y dyfodol.
Yn y cwricwlwm newydd—dydw i ddim yn derbyn disgrifiad yr Aelod. Rwy'n credu, o fewn y meysydd dysgu ac entrepreneuriaeth ac arloesi, maen nhw yno, ac mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n ategu hynny'n ymarferol yn y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Mae llawer o'r hyn y mae busnes yn ei ddweud ar hyn o bryd, pan fyddan nhw'n edrych ar y dyfodol gyda'r holl risgiau a heriau a chyfleoedd sydd ganddyn nhw, maen nhw'n siarad llawer am lafur a sgiliau ac am sut mae angen i ni allu cyrraedd pobl nid yn unig rhai 16, 17, 18 a thu hwnt, ond yn gynharach mewn gwirionedd, i gadw'r meddyliau hynny'n agored i yrfaoedd posib sy'n bodoli. Nid pwynt am sgiliau yn unig yw hynny; mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n gwerthfawrogi ac yn gwreiddio diwylliant o arloesi a herio. Roedd hi'n ddiddorol iawn ddoe, yn y lansiad, i gael amrywiaeth o bobl ifanc mewn gwahanol rannau o Gymru yn dweud beth maen nhw eisoes yn ei wneud wrth edrych ar ffyrdd arloesol, felly maen nhw'n meddwl am ddatrys problemau i fynd drwy hynny, ac nid dim ond—er bod Jack Sargeant yn yr ystafell—peirianwyr ydyn nhw; mae yna amrywiaeth o bobl eraill yn meddwl am sut i ymdopi â heriau yn y dyfodol.
Ac, edrychwch, o ran lansio'r cyllid micro a busnesau bach a chanolig, rydych chi'n disgwyl iddo ddigwydd o fewn y misoedd nesaf. Unwaith eto, byddaf yn ei gwneud yn glir pan fydd y gronfa honno'n cael ei lansio. Bydd yr aelodau yn gwybod a byddant yn ceisio mynd i weithio gyda rhanddeiliaid. Rwy'n amau, yn anffodus, na fydd yn bennawd yn y newyddion ar y teledu pan fyddwn ni'n lansio'r gronfa honno, ond bydd y bobl sydd angen gwybod am hynny yn gwybod amdano a'r rhwydweithiau busnes sydd gennym yw sut y byddwn ni'n gallu ceisio hyrwyddo hwnnw. Ac, yn amlwg, i Aelodau o bob ochr, byddai'n ddefnyddiol pe gallen nhw ei hyrwyddo, oherwydd bydd gennych chi i gyd etholwyr a fydd â diddordeb mewn pryd y caiff y gronfa honno ei lansio.
Rydym yn bendant yn credu bod arloesi yn bwysig ym mhob ardal ledled Cymru. Rydyn ni wedi buddsoddi llawer mewn arloesedd yn y gogledd mewn ystod eang o feysydd. Roeddwn i'n siarad â Siemens yn gynharach heddiw, a gyda'r buddsoddiad rydyn ni wedi'i wneud gyda nhw yn Llanberis, maen nhw'n cymryd rhan mewn nid dim ond gweithgynhyrchu ond ymchwil diddorol, arloesol iawn hefyd. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd â chyrhaeddiad ym mhob rhan o Gymru. Ac mae'n un o'r pwyntiau rydyn ni wedi'i wneud i Lywodraeth y DU, fel nad ydyn nhw'n gweld ymchwil, gwyddoniaeth, datblygiad ac arloesedd fel rhywbeth sy'n digwydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn y clwstwr lled-ddargludyddion; bu'n rhaid i ni ddweud wrthyn nhw fod llawer mwy o ardaloedd o gryfder ledled Cymru, a soniodd Sam Kurtz yn gynharach heddiw am waith IBERS yn Aberystwyth. Dylwn i ddweud, Llywydd, mai dyna'r sefydliad lle gwnes i fy ngradd; does dim rhagfarn yn y fan yna, yn amlwg.
Yn olaf, er hynny, ar adolygiad Reid, mae angen i ni fod yn onest: dydyn ni ddim yn mynd i allu cyflawni'r hyn yr awgrymodd adolygiad Reid y byddem ni'n ei wneud, oherwydd mae'r gwirioneddau cyllido bryd hynny wedi eu dymchwel yn llwyr nid yn unig gan inni adael yr Undeb Ewropeaidd ond gan y methiant i ymdrin, y methiant i anrhydeddu'r addewidion clir iawn a wnaed na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd. Mae ein cyllideb wedi cymryd pwysau gwirioneddol. Rydyn ni'n mynd i fod yn siarad am y gyllideb derfynol yn yr wythnosau nesaf, ac o fewn hynny rydych chi'n gwybod yn iawn nad oes yna arian ychwanegol yn chwilio am gartref. Ein her mewn gwirionedd yw sut rydyn ni'n blaenoriaethu ac yn ymdrin â'r pethau y mae angen i ni eu gwneud, y cyfleoedd y gallwn ni eu cymryd, yn hytrach na'r holl bethau y byddai Aelodau ar draws gwahanol bleidiau eisiau eu gwneud. Felly, dydw i ddim yn mynd i gymryd rhan mewn sgwrs anonest ac esgus ein bod ni'n dal yn yr un sefyllfa â phan gyhoeddwyd adolygiad Reid. Ac mae angen i Aelodau Ceidwadol gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y ffaith bod mwy o arian wedi ei dynnu allan o Gymru a bellach mae gennym lai o lais dros lai o arian.