Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 28 Chwefror 2023.
Rydw i'n mynd i ddechrau gyda'r hyn yr ydw i'n cytuno â'r Gweinidog yn ei gylch—sef gosod Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Ond mae'n eithaf clir, onid yw, na ddylai fod wedi cael ei dynnu allan yn y lle cyntaf, yn gyfleus ac yn rhy gynnar. Ond roedd y Gweinidog eisiau neilltuo bai hefyd. Mae hi'n dweud mai adroddiad diweddar Archwilio Cymru oedd y pennog gyda phwn a dorrodd asgwrn cefn y ceffyl; soniodd am gamweithrediad y bwrdd. Cyfeiriodd mewn cyfweliad ar Radio Wales fore heddiw at y feirniadaeth aruthrol o aelodau'r bwrdd gweithredol, ond wrth gwrs penderfynodd mai'r aelodau annibynnol oedd i'w gadael yn y twll yn gyhoeddus iawn ddoe. Mae hi wedi amddiffyn ei gweithredoedd, gan ddweud, 'Does gen i ddim y pwerau i ymyrryd yn uniongyrchol o ran y weithrediaeth.' Mae hi wedi dweud hynny eto'r prynhawn 'ma. Ond dyna'n union mae mesurau arbennig yn caniatáu i'r Gweinidog ei wneud, rhedeg y bwrdd iechyd yn effeithiol, hyd yn oed cefnogi'r cadeirydd ac aelodau annibynnol os dyna oedd hi eisiau.
Nawr, mae gennym ddisgrifiad â chôt o siwgr, onid oes, o'r hyn a ddigwyddodd ddoe yn natganiad y Gweinidog—'wedi siarad â'r aelodau anweithredol. O ganlyniad, maen nhw wedi penderfynu camu o'r neilltu.' Gadewch i ni fod ychydig yn fwy uniongyrchol, i unrhyw un arall a allai fod yn ystyried penodiad gan y Llywodraeth hon ac yn ystyried pa fath o gefnogaeth y gallant ei disgwyl. Efallai y bydd y Gweinidog eisiau cadarnhau, ar ôl eu galw i'r cyfarfod, dywedodd wrthyn nhw fod ganddyn nhw 50 munud i ymddiswyddo neu y byddai hi yn eu diswyddo, ac wrth wneud hynny eu hatal rhag penodiadau cyhoeddus eraill am ddwy flynedd, a chyn i'r 50 munud ddod i ben, bod llythyr terfyniad drafft wedi'i roi iddyn nhw, dim ond i gadarnhau'n derfynol beth oedd y sefyllfa. Sut allen nhw beidio ag ymddiswyddo? Ond fe fydd eu hymateb urddasol wedi taro deuddeg ymhlith nifer. Mewn llythyr cyhoeddus damniol at y Prif Weinidog, medden nhw,
'Does gennym ni ddim hyder yng ngafael Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa.'
Nawr, cafodd hynny ei roi i'r Gweinidog y bore 'ma, a gadewch i mi ddweud wrthych beth ddywedodd hi:
'Nid fy nghyfrifoldeb i oedd cael gafael ar bethau'.
Dyma'r Gweinidog iechyd.
'Nid fy nghyfrifoldeb i oedd cael gafael ar bethau, nhw oedd wrth y llyw, meddai. Y Gweinidog yn y pen draw sy'n gyfrifol ac yn atebol. Mewn gwirionedd, cytunodd â hynny, ond dywedodd ei bod yn dirprwyo i eraill. A gyda llaw, nid yw hyn yn amddiffyniad diamod i'r aelodau annibynnol; mae'n dangos y gwahaniaeth amlwg rhwng y bai a neilltuwyd iddyn nhw a'r gwadu unrhyw gyfrifoldeb yn llwyr ar ran y Gweinidog.
Gadewch i ni ddychwelyd at y cyfarfod hwnnw ddoe. Credaf i'r Gweinidog ddweud wrth yr aelodau annibynnol mai eu rôl nhw oedd rhoi pwysau ar y swyddogion gweithredol. Ond onid oedden nhw'n gwneud hynny ynghylch fasgwlar, wroleg, Ysbyty Glan Clwyd, a chanfuwyd bod eu barn yn iawn dro ar ôl tro?
Gadewch i mi ddarllen mwy o'u datganiad ar ôl eu hymddiswyddiad. Maen nhw'n dweud eu bod wedi
'dod o hyd i fethiannau difrifol yn rheolaeth ariannol y Bwrdd Iechyd. Fe wnaethom ni gomisiynu adolygiad arbenigol...a gadarnhaodd ein pryderon, daeth o hyd i dystiolaeth o gamymddygiad difrifol, ac arweiniodd at ymchwiliad gwrth-dwyll. Mae hyn ar y gweill, ond mae ganddo oblygiadau difrifol i sefydliadau eraill y GIG a'r Llywodraeth.'
Byddwch chi, Gweinidog, yn ymwybodol, heb os, o'r cwestiynau y mae rhai yn eu gofyn am gysylltiadau posibl rhwng hynny a'r camau a gymerwyd ddoe. Af ymlaen. 'Rydym hefyd wedi uwchgyfeirio pryderon o'r blaen a thro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru fel y gwelwyd trwy ohebiaeth i'r cyfarwyddwr cyffredinol ddechrau mis Medi, a amlygodd lawer o'r materion a gofnodwyd yn adroddiad effeithiolrwydd bwrdd Archwilio Cymru, sy'n cael ein cefnogaeth lawn, ac eto ni chawsom ymateb, heb sôn am gefnogaeth mewn ymateb i'r uwchgyfeiriadau hynny.'
Mae hynny'n rhyfedd iawn, onid yw e, heb dderbyn ymateb ar faterion mor ddifrifol. Efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hynny. Byddech chi wedi meddwl y byddai'r Gweinidog eisiau gweithio gyda nhw a gwrando ar unrhyw un sy'n codi pryderon o'r math yna. Dywedais wrthych fod y Gweinidog wedi dweud bod ei gweithredoedd ddoe yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad archwilio. Efallai y gall y Gweinidog gadarnhau awgrymiadau bod chwilio ar droed am aelodau newydd o'r bwrdd annibynnol gymaint â phum wythnos yn ôl, cyn yr adroddiad archwilio. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi ei chael hi'n ofidus iawn yn wir mai'r neges gyntaf ges i'r bore 'ma, trwy rywun sy'n agos at yr adroddiad archwilio hwnnw, oedd hyn: 'Mae'r Gweinidog wedi cael gwared ar y bobl anghywir.' Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n credu y gallen nhw fod ar y trywydd iawn ac rwy'n credu y bydd llawer o bobl eraill yn dod i'r casgliad hwnnw hefyd, yn union fel y mae llawer eisoes, fel yr wyf i, fod Betsi, yn ei ffurf bresennol, y tu hwnt i'w hadfer.
Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at broblemau diwylliannol o fewn Betsi, ond rwy'n dweud wrthych chi fod y camweithrediad diwylliannol hwn yn greiddiol yn Betsi. Mae'n flynyddoedd ers i mi ddweud, os nad oes modd troi pethau o gwmpas, dylai'r Llywodraeth edrych ar chwalu Betsi yn rhannau llai, mwy hylaw. Wel, fe redodd y tywod allan yn yr amserydd arbennig hwnnw flynyddoedd yn ôl. Mae wedi bod yn glir i fi, a llawer o staff a chleifion, ers tro bod yn rhaid i Betsi fynd. Mae Llywodraethau olynol Cymru, Gweinidogion Iechyd, wedi potsian, ond dydyn nhw ddim wedi cymryd y camau pendant hynny gan ddweud, fel y dywed y Gweinidog eto heddiw, y byddai hyn yn
'tynnu sylw oddi ar yr angen i ganolbwyntio nawr ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posib'
Ond rydyn ni'n troi mewn cylchoedd, gan wario mwy o arian ar ymdrechion aflwyddiannus i gael pethau'n iawn nag y bydden ni ar ad-drefnu. Mae hi'n dweud wrthym y byddai ei chwalu'n anghywir pan ydyn ni'n ceisio annog cydweithio rhanbarthol. Ni all Betsi hyd yn oed gydweithio â hi ei hun.