Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 28 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr, Ken. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod aelodau'r bwrdd blaenorol wedi ymdrechu'n fawr i geisio dwyn y tîm gweithredol i gyfrif. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yw'r cam nesaf, sef gweithredu ar y canfyddiadau. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod dealltwriaeth nawr bod angen cymryd y cam nesaf hwnnw. Felly, hoffwn gydnabod y cryn dalent sydd yna ymhlith yr aelodau hynny o'r bwrdd a wnaeth roi'r gorau i'w swydd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymgysylltu, fel y dywedwch chi, â dinasyddion yn y gogledd. Mae angen i ni, yn gyntaf oll, roi hyder iddyn nhw y bydd y gwasanaethau hyn, mewn gwirionedd, y gwaith o ddydd i ddydd, yn parhau. Ac roedd hi'n ddiddorol iawn, ddoe yn Ysbyty Glan Clwyd, siarad â rhai o aelodau'r staff yno am beth sydd wedi digwydd a pha wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud, ac roedden nhw'n dweud, wel, mewn gwirionedd, maen nhw'n bwrw ymlaen â'u swyddi. Dim ond peth strwythurol sefydliadol mawr yw hwn ar y brig. Y broblem yw, weithiau, bod angen ychydig mwy o bendantrwydd ar y brig o ran newid y diwylliant a fydd wedyn yn hidlo i lawr. Ac mae'n debyg bod y ffaith iddyn nhw weld y datgysylltiad hwnnw hefyd yn awgrymu bod problem yno hefyd.
Rwy'n credu bod gwneud yn siŵr nad ydym yn colli'r pwyslais ar y gwasanaethau rheng flaen hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn hefyd ein bod yn cydnabod, mewn gwirionedd, fod y gafael sydd gan y bwrdd, a'r swyddogion gweithredol yn fwy na neb arall, yn eithaf syfrdanol. Fe es i ar ymweliad dirybudd â chyfleuster yn y gogledd a chefais fy syfrdanu gan y diffyg gweithgaredd sy'n digwydd yno. Yr hyn oedd yn peri gofid oedd y ffaith nad oedd neb, mewn gwirionedd, yn monitro hynny. Mae hynny'n fethiant gweithredol. Mae'n fethiant gweithredol, a beth sy'n bwysig yw pam oedd hyn yn bod, nid yn unig bod methiant gweithredol, ond, mewn gwirionedd, pam na ddaeth y bwrdd yn ymwybodol nad oedd y math o weithgaredd a ddylai fod yn digwydd yn digwydd? Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig.
O ran y staff, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn hefyd ein bod ni'n deall bod yna lawer o bobl sy'n gweithio i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr; mae'n weithlu o tua 19,000 o bobl sy'n darparu gofal i tua 700,000 o bobl. Fe wnes i fideo ddoe, yn Gymraeg ac yn Saesneg, dim ond i geisio egluro'n uniongyrchol iddyn nhw yr hyn oedd yn digwydd o ran y bwrdd.
Rwy'n credu bod eich syniad o ethol aelodau'r bwrdd yn uniongyrchol—. Wel, edrychwch, mae gen i ddiddordeb mewn atebolrwydd, oherwydd ar hyn o bryd rwy'n teimlo bod pob un peth sy'n digwydd mewn cysylltiad ag iechyd yn cwympo ar fy ysgwyddau i yn unig, a dydw i ddim yn siŵr os ydy honno'n system deg. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall bod angen system wahanol. Ac rydych chi'n hollol iawn: yn Lloegr, dydy hynny ddim yn digwydd. Felly, mae 500 o ysbytai yn Lloegr, a gallaf ddweud wrthych nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol yno'n cael unrhyw beth tebyg i'r math o graffu a gaf i yma ar yr 20 ysbyty sydd gennym ni yma. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dechrau deall, yn iawn, ble mae atebolrwydd? Rwy'n credu bod angen i'r sgwrs yna ddigwydd.
Os awn ni i lawr y llwybr o ethol yn uniongyrchol, rwy'n credu bod yna faterion y mae angen i ni eu hystyried yno oherwydd mae angen pobl sy'n deall llywodraethu ac atebolrwydd a beth bynnag, ac nid ydynt o reidrwydd y bobl sy'n gallu ennill etholiadau, felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl rhywfaint am hynny. Ond mae gen i ddiddordeb mawr mewn edrych eto ar yr atebolrwydd o fewn y system, oherwydd ar hyn o bryd rwy'n barod i gymryd atebolrwydd, ond rwy'n credu bod y cyfan ar hyn o bryd yn disgyn ar fy nesg i dro ar ôl tro, ac, yn amlwg, o ran dwyn i gyfrif pobl pan wyf eisoes wedi dirprwyo cyfrifoldeb, rwy'n credu bod angen i'r cyhoedd ddeall mai dyna'r system rydyn ni'n ei defnyddio.