6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:45, 28 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, y prynhawn yma, Gweinidog, ac, yn wir, am wahodd Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol i swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ddoe i gael eich briff.

Rwy'n mynd i fod yn glir gyda chi, Gweinidog, mewn gwirionedd. Mae pobl Dyffryn Clwyd wedi cael digon, ac nid yw'n ddoniol—gallaf i weld eich bod chi'n gwenu yno—oherwydd mae'n nhw wedi cael blynyddoedd o esgusodion, a methiant ar ôl methiant gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghaerdydd: cau 13 o welyau yn ysbyty Dinbych; adroddiad Tawel Fan; adroddiad y Gwasanaethau Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Donna Ockenden; methu adeiladu ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych yn Y Rhyl wedi 10 mlynedd o dorri addewidion; a'r ugeiniau ac ugeiniau o ambiwlansys y tu allan i ysbyty Glan Clwyd. Digwyddodd y cyfan o dan y rownd olaf o fesurau arbennig, Gweinidog, yr ydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw. Ac rydych chi'n dod yn ôl ata'i yn aml ac yn dweud, 'Wel, nid oeddwn i'n Weinidog Iechyd ar y pryd ac felly nid fy nghyfrifoldeb i yw hi, ond nid yw hynny'n tycio, mae gennyf i ofn, oherwydd rydych chi'n dod o dan gyfrifoldeb cyfunol yn y Llywodraeth ac mae gennych chi ddyletswydd i ddarparu darpariaeth gofal iechyd o safon ar draws y gogledd. Felly, sut ydych chi'n mynd i sicrhau eich bod chi'n gwneud pethau'n iawn y tro hwn, Gweinidog? A sut ydych chi'n mynd i wneud yn siŵr yn bersonol bod y methiannau'n dod i ben nawr? Ac os na allwch chi wella Betsi Cadwaladr a chymryd atebolrwydd, a wnewch chi fyfyrio ar eich cymhwysedd i wneud eich gwaith ac ystyried gadael eich swydd, gan na all hyn fynd ymlaen rhagor? Mae pobl y gogledd wedi cael llond bol o fwrdd iechyd sy'n methu a Llywodraeth sy'n methu yma ym Mae Caerdydd. Diolch.