6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:36, 28 Chwefror 2023

Mi wnaf ofyn un peth arall, felly. Mi wnaeth y Prif Weinidog sôn yn y sesiwn gwestiynau fod yna ddarnau eraill o wybodaeth wedi eich arwain chi at y cyhoeddiad yma ddoe. Beth ydy'r darnau hynny o wybodaeth? Ydy'r cyfan o'r wybodaeth tu ôl i benderfyniad ddoe allan yna yn y pau cyhoeddus, neu oes yna fwy i ddod?