Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 28 Chwefror 2023.
Mae nifer ohonom ni, a dwi'n siŵr eich bod chi yn ein plith ni, yn cofio dysgu dywediad yn yr ysgol gynradd a oedd yn ein hatgoffa ni, bob tro rydyn ni'n pwyntio bys at rywun, mae yna dri bys yn pwyntio yn ôl atom ni ein hunain. Dwi ddim yn meddwl bod hwnna wedi bod yn fwy gwir nag y mae e y prynhawn yma, oherwydd mae'r 24 awr diwethaf wedi dangos i ni eich bod chi, fel Gweinidog, a bod y Llywodraeth yma jest yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd pan fo'n dod i wasanaethau iechyd yn y gogledd. Mewn i fesurau arbennig; mas o fesurau arbennig; nôl mewn i fesurau arbennig; prif weithredwyr yn cael eu penodi; prif weithredwyr yn cael eu gorfodi, yn aml iawn, i symud ymlaen; cadeiryddion newydd yn cael eu penodi; cadeiryddion newydd yn cael eu gofyn i sefyll i lawr. Rydyn ni wedi bod fan hyn nifer fawr o weithiau a dyw pethau ddim yn gwella.
Nawr, pan benodwyd Mark Polin, mi oeddwn i yn hyderus, os oedd unrhyw un yn gallu troi'r bwrdd yma rownd, fe oedd yr un. Ond mae'r ffaith ei fod e a'i gyd-aelodau fe o'r bwrdd wedi methu â gwneud hynny yn amlygu i fi fod yna broblemau dyfnach, mwy systemig, ac mae hynny'n golygu bod angen gweithredu mwy radical a bod angen gweithredu mwy pellgyrhaeddol gennych chi, fel Gweinidog, a gan y Llywodraeth yma. Felly, a wnewch chi o leiaf jest comisiynu darn o waith i edrych ar opsiynau amgen o safbwynt dyfodol y bwrdd iechyd? Efallai y daw e yn ôl yn dweud mai'r hyn sydd gennym ni nawr yw'r gorau y gallwn ni ei gael. Iawn, digon teg, ond gofynnwch y cwestiwn a chychwynnwch y broses, oherwydd os na wnewch chi, mi fyddwn ni'n dal i fynd rownd a rownd, a'ch olynydd chi fydd fan hyn mewn cwpwl o fisoedd yn esbonio pam ein bod ni'n dal ble ŷn ni.