6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:38, 28 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynychu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd fis Mawrth diwethaf, ysgrifennais i atyn nhw fel Cadeirydd am bryderon ynghylch rhai o'r ymatebion y gwnaethon nhw eu rhoi i ni gan geisio eglurder ar rai pwyntiau. Roedd ein llythyr yn cynnwys ein bod ni wedi ein siomi gan y diffyg perchnogaeth a chyfrifoldeb y cymerodd y gweithredwr dros y problemau yn y bwrdd, gan gyfeirio at adroddiadau amrywiol yn ystod y degawd blaenorol, gan gynnwys Holden, Ockenden, HASCAS ac adroddiadau Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn ôl y llythyr hwn:

'Rydyn ni hefyd yn poeni am bresenoldeb parhaus swyddogion gweithredol a rheolwyr y bwrdd iechyd a oedd yn gysylltiedig â chasgliadau'r adroddiadau hyn ac am eu gallu i gyflawni'r newid mewnol sydd ei angen.'

Yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe, Gweinidog, gwnaethoch chi ddweud eich bod chi wedi cytuno ei bod hi'n bryd i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau annibynnol o'r bwrdd gamu o'r neilltu. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r safbwynt arall sydd wedi'i roi ar hyn gan aelodau annibynnol y bwrdd yn eu llythyr at y Prif Weinidog ddoe, y cafodd Aelodau'r gogledd gopi ohono? Maen nhw'n dweud:

'Rydyn ni'n ysgrifennu i fynegi ein pryderon diffuant o ran dyfodol gwasanaethau iechyd yn y gogledd yn dilyn y cyfarfod y bore yma gyda'r Gweinidog pan nad oedd gennym ni unrhyw ddewis ond ymddiswyddo fel Aelodau Annibynnol ar unwaith.'

Dywedon nhw eu bod nhw'n pryderu'n ddifrifol am ymateb y Gweinidog i adroddiad Archwilio Cymru a bod canolbwyntio ar aelodau annibynnol yn hytrach na'r weithrediaeth weithredol a'u cyflawniad yn gwneud cleifion ledled Cymru a'r sefydliad yn agored i risg sylweddol wrth symud ymlaen.

Yn olaf, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi amlygu pryderon yn gyson ynghylch goruchwylio'r bwrdd iechyd gan Lywodraeth Cymru. Pam eich bod chi a'ch Gweinidogion iechyd rhagflaenol wedi caniatáu i faterion gyrraedd y penllanw hwn, pan adroddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bryderon ynghylch ymarferoldeb y bwrdd yn ei adroddiadau ar y bwrdd a gafodd eu cyhoeddi yn 2013, yn 2016, yn 2019—