Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 28 Chwefror 2023.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod 'Cymraeg 2050' yn ymrwymiad cryf bod ein hiaith yn perthyn i bob un ohonom ni, ac rydyn ni wedi bod yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i strategaeth 'Cymraeg 2050'. Mae ganddo'r nodau hynny i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond hefyd, yr un mor allweddol, dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith. Rwy'n credu bod fy rôl i—rwy'n diolch i chi am gydnabod pwysigrwydd y cysylltiad hwn â'r agenda cyfiawnder cymdeithasol, oherwydd pan wyf i wedi cyfarfod â'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, fel mae fy holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, mae wedi ein galluogi ni i edrych eto ar bopeth rydyn ni'n ei wneud a'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran bwrw ymlaen â hyn. I mi, mae wedi golygu edrych arno o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol, o ran, er enghraifft, integreiddio mudwyr. Rydym ni wedi gwneud sylwadau ar hynny o ran y ffaith ein bod ni’n genedl noddfa.
Mae integreiddio a chynhwysiant mudwyr yn hanfodol, ac os ydym ni mewn gwirionedd yn cydnabod bod Cymru yn gartref ar hyn o bryd i tua 200,000 o fudwyr, mae'r aelodau hyn o'n cymuned eisoes yn sgwrsio yn eu hail iaith o leiaf, os nad eu trydedd neu bedwaredd. Pan yw mudwyr yn siarad Cymraeg, mae'n ddarlun gwych o integreiddio cymunedol, ac rydyn ni’n edrych ar sut y gellir cefnogi hyn a sut rydym ni’n sicrhau bod integreiddio yn digwydd o'r diwrnod cyntaf.
Ymhen cwpl o wythnosau rwy’n mynd i'r Gwobrau Cenedl Noddfa, ac mae gwobrau i ddysgwyr ieithoedd—un ar gyfer Saesneg a'r llall ar gyfer yr iaith Gymraeg—ac rwyf i eisiau dweud heddiw, Llywydd, ein bod ni'n cofio ac yn llongyfarch, yn 2019, cafodd y wobr dysgwr Cymraeg ei hennill gan Mohamad Karkoubi, a oedd yn byw yn Aberystwyth ar y pryd—felly fe wnaf i sôn yn arbennig amdano ef, Llywydd—gyda'i wraig a'u tri phlentyn ar ôl ffoi o'r rhyfel cartref yn eu mamwlad. Enillodd y wobr dysgwr Cymraeg. Mae Mr Karkoubi, o Aleppo, wedi bod yn dysgu Cymraeg ddwywaith yr wythnos ers mis Medi, ac mae hynny wedi ei helpu yn ei swydd fel gof yn Nhregaron. Dywedodd Mr Karkoubi,
'Dwi wir yn mwynhau dysgu Cymraeg. Mae'r iaith wedi fy helpu i a fy nheulu i deimlo'n rhan o'r gymuned yr ydym ni’n byw ynddi.'
Rwy'n credu mai dyma lle, yn amlwg, mae'r ymrwymiad i addysg Gymraeg yn hanfodol bwysig, ond mae ymgynghoriad ar sut rydym ni’n cryfhau cymunedau Cymraeg. Roeddech chi'n sôn am addysgu. Mae yna gynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg a chyllid ar gyfer cyrsiau blasu ar-lein i ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddysgu Cymraeg heb orfod bod yn rhugl yn Saesneg. Mae gennym ni lawer i'w ddysgu gan y rhai sy'n croesawu, ac yn ymgysylltu â'r Gymraeg. Mae yna gyllid i roi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad gwaith i bobl ifanc ddechrau gyrfa yn y sector gofal plant cyfrwng Cymraeg, sydd, fel y dywedwch chi, mor hanfodol bwysig.
Yn olaf gen i , o ran ffoaduriaid o Wcráin ac integreiddio o fewn cymunedau Cymraeg, mae gennym ni ymdrech tîm yng Nghymru. Ddoe, cawsom ni ddigwyddiad gwych, lle'r oeddem mewn gwirionedd yn nodi carreg filltir erchyll goresgyniad Wcráin gan Putin, ond roeddem yno, mewn gwirionedd, i gydnabod haelioni gwych teuluoedd ac aelwydydd sydd wedi lletya dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi codi i'n helpu i gefnogi dros 6,500 o bobl Wcráin sydd bellach yn byw yng Nghymru. Mae llawer yn gweithio a'u plant yn yr ysgol—maen nhw'n dysgu Cymraeg—ac, wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn eu cefnogi nhw drwy nid yn unig ein lletywyr, ond drwy ein canolfannau croeso. Dim ond i sicrhau cydweithwyr ac i sicrhau Heledd, o'ch cwestiwn chi, ein bod ni'n gweithio—. Rydyn ni wedi cau nifer o ganolfannau croeso dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn wir, yr un cyntaf i ni ei chau oedd yr Urdd, ac roedd cau hon yn naturiol ar ôl tri, pedwar mis o gymorth dwys, cefnogaeth dros dro cychwynnol, ac yna galluogi’r bobl hyn o Wcráin i symud ymlaen. Am drochfa yn y Gymraeg oedd hynny, o ran yr Urdd. Ond yn ein holl ganolfannau croeso, rydyn ni’n darparu'r gefnogaeth gofleidiol honno ac, yn wir, gan fod llawer ohonyn nhw wedi symud ymlaen allan o ganolfannau croeso, maen nhw'n sicr yn cael eu cau mewn ffordd sensitif i sicrhau bod gan bawb mewn canolfan groeso gartref i symud ymlaen iddo, a gallaf roi'r sicrwydd hwnnw yma heddiw.
Ond iddyn nhw, hefyd, fe fydd yn golygu symud ymlaen i gymunedau, i drefi, dinasoedd a phentrefi yng Nghymru, i weithio ac i barhau gydag ysgolion. Ond, fel y gwyddom ni, mae cymaint ohonyn nhw, wrth gwrs, yn edrych tuag at yr amser pan fyddan nhw'n gallu dychwelyd i Wcráin ac i fod gyda'u teuluoedd y maen nhw wedi'u gadael gartref. Ond i lawer mwy, Cymru yw eu cartref.