Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 28 Chwefror 2023.
Mae ein holl strategaethau a chynlluniau gweithredu presennol ym maes cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn ystyried y Gymraeg o fewn llunio a chyflwyno polisi, yn yr un modd ag y dylai 'Cymraeg 2050' ategu ein huchelgeisiau cyfiawnder cymdeithasol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cryn dipyn o weithredu i symud ymlaen at gydraddoldeb, ac mae rhywfaint o'n gwaith mwyaf nodedig yn cynnwys: lansio 'Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau' yn 2020; yn 2021, fe wnaethon ni sefydlu'r tasglu hawliau anabledd; yn 2022, roeddwn i'n falch o gyhoeddi ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'; ac ar ddechrau'r mis hwn, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol nodi mis hanes LHDTC+ gyda lansiad y cynllun gweithredu cydraddoldeb LHDTC+.
Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi datgan dro ar ôl tro sut mae Cymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n rhannu ei farn. Dyma pam yr ydym ni'n cymryd camau rhagweithiol i gryfhau'r cysylltiad rhwng 'Cymraeg 2050' a'n gwaith presennol ym maes cyfiawnder cymdeithasol. O fewn cynllun gweithredu gwrth-hiliol Cymru, fe wnaethom nodi sut, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae gennym weledigaeth ehangol a chynhwysol ar gyfer y Gymraeg' ac y gall fod yn
'ffordd o uno pobl o gefndiroedd gwahanol. Gall dysgu ieithoedd newydd ein gwneud ni fel unigolion yn fwy agored i ddiwylliannau eraill.'
Felly, rwy'n falch o ailddatgan fy ymrwymiad i gysoni'r ddau faes gwaith, a byddaf yn parhau i weithio gyda'r Gweinidog i wireddu hyn.
Mae gweld cymunedau yn dod at ei gilydd ar adeg o angen yn fy llenwi â gobaith ar gyfer y dyfodol. Wrth i ni nodi blwyddyn ers goresgyniad Wcráin, a achosodd i bobl Wcráin na allai fyw yn eu gwlad mwyach gael eu dadleoli, rwyf eisiau rhannu pa mor falch ydw i o weld sut mae cymunedau ledled Cymru wedi croesawu ffoaduriaid o Wcráin i'w cartrefi a'u cymunedau. Mae'n bwysig bod Cymru yn genedl noddfa ac yn parhau i fod. Mae'n galonogol gweld sut mae teuluoedd bellach yn integreiddio i gymunedau Cymraeg, gyda sawl adroddiad yn y cyfryngau yn ddiweddar yn tynnu sylw at sut mae plant o Wcráin yn dysgu Cymraeg drwy rai o'n canolfannau trochi hwyr. Gall iaith fod yn offeryn integreiddio pwerus iawn. Mae prosiectau fel Dydd Miwsig Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gerrig milltir pwysig i allu mynd â'r Gymraeg i gynulleidfaoedd a chymunedau newydd. Mae'r adnodd 'Croeso i Bawb' yn rhoi cyfleoedd i gyflwyno'r Gymraeg a Chymru i bobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg. Mae hyn oll yn cyfrannu at weld Cymraeg a diwylliant Cymreig mewn goleuni gwahanol, goleuni sy'n gynhwysol ac yn groesawgar.