8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd — Cynnydd Cynllun Pum mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:42, 28 Chwefror 2023

Wrth gwrs, mae’n fater dyrys, ac mae angen dod at hyn o sawl cyfeiriad. Rhaid hyrwyddo arferion glendid da er mwyn atal heintiau rhag lledaenu, a hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotig. Y gorddefnydd a’r camddefnydd o gwrthfiotig sydd yn gyrru ymwrthedd gwrthficrobaidd. Rhaid, felly, sicrhau bod y defnydd o gwrthfiotig yn cael ei gyfyngu i'r adegau angenrheidiol yn unig, gan ei ddefnyddio yn unol â chyngor milfeddygol yn unig. Rhaid hefyd edrych ar hyrwyddo meddyginiaeth amgen, megis probiotegau, prebiotegau, a chwistrelliadau. Ond nid yw’r cyfrifoldeb yn gorwedd ar ysgwyddau ein ffermwyr yn unig. Mae’n angenrheidiol i'r Llywodraeth ddangos arweiniad. 

Rhaid, felly, i'r Llywodraeth ddarparu cefnogaeth ac adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ffermwyr y gallu i weithredu yn unol â'r arferion glendid a lles gorau posib er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol. Felly, dwi'n croesawu'r cyhoeddiad yma o £2.5 miliwn gan y Llywodraeth er mwyn parhau â'r ymdrech am ddwy flynedd arall. Ond tybed all y Gweinidog gadarnhau os mai pres newydd ydy hwn, yntau ai pres wedi'i arallgyfeirio oddi fewn i amlen gyllidol yr adran amaeth ydy o, ac a fedrith y Gweinidog ateb cwestiwn Sam ai pres o gyllideb RDP ydy o? Diolch.