8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd — Cynnydd Cynllun Pum mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:39, 28 Chwefror 2023

Dwi'n croesawu'r datganiad yma heddiw, oherwydd mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael effaith andwyol ar ein ffermydd ac ar iechyd cyhoeddus. Yn wir, erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn achosi 10 miliwn o farwolaethau yn fyd-eang, ac yn costio $100 triliwn i economi'r byd. Felly, wrth ystyried hyn, pa asesiadau economaidd y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o impact ymwrthedd gwrthficrobaidd ar y sector amaethyddol yng Nghymru? A pha asesiad sydd wedi ei wneud o’r impact ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru? Mae canlyniadau Arwain Defnydd Gwrthfiotig Cyfrifol—Arwain DGC—i'w croesawu. Ymddengys bod y ffocws ar leihau y defnydd o gwrthfiotig trwy hyfforddiant, technoleg a chasglu data wedi profi i fod yn effeithiol.