Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 7 Mawrth 2023.
Gallaf ddweud yn sicr wrth yr Aelod bod 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i'r compact. Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'r sector i roi grym y gyfraith yn sylfaen i'r compact hefyd. Nid oes gennyf i o fy mlaen yr ateb i nifer y datblygwyr sydd wedi cymryd y cam nesaf y cyfeiriodd yr Aelod ato, ond rwy'n hapus iawn i ysgrifennu ato a gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth honno ganddo.