Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU newydd godi prisiau tocynnau trên 5.9 y cant—y cynnydd uchaf ers degawd. Yn dod, fel y mae, yng nghanol argyfwng costau byw, mae'n anodd anghytuno ag Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid Lafur dros Drafnidiaeth, Louise Haigh, a ddywedodd:
'Bydd y cynnydd milain hwn i brisiau tocynnau yn jôc ddi-chwaeth i filiynau sy'n ddibynnol ar wasanaethau sydd ar chwâl. Mae pobl ar hyd a lled y wlad hon yn talu'r pris am dair blynedd ar ddeg o fethiant y Torïaid.'
Pam wnaethoch chi gytuno i gynyddu prisiau tocynnau trên yng Nghymru ar yr un raddfa?