Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu unrhyw gynnydd a wnaed ar ddatrys y problemau sydd heb eu datrys o ran protocol Gogledd Iwerddon. Yn ystod y cyfnod na fu unrhyw Weithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon, rwyf i wedi cadw mewn cysylltiad ag arweinwyr yr holl brif bleidiau. Yn ystod yr hydref, cefais gyfarfod gyda Michelle O'Neill, arweinydd Sinn Féin, siaradais â Jeffrey Donaldson, arweinydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, a chynhaliais gyfarfodydd gyda Doug Beattie, arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster, a chydag arweinwyr y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a Llafur. Fe wnes i hynny er mwyn cyfleu iddyn nhw y diddordeb sydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwneud yn siŵr bod Gweithrediaeth weithredol yno yng Ngogledd Iwerddon yn gallu bod yn yr ystafell pan fyddwn ni'n cynnal trafodaethau rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Yn y cyfamser, mae Joyce Watson yn llygad ei lle, Llywydd, bod telerau'r cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi porthladdoedd Cymru o dan anfantais gystadleuol amlwg. Mae busnesau Iwerddon yn osgoi'r bont dir o blaid cysylltiadau uniongyrchol â phorthladdoedd UE yn Ffrainc a Sbaen. Cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, roedd gan Rosslare, fel y cofiaf, bedwar prif lwybr, ac roedden nhw rhwng ynys Iwerddon a phorthladdoedd Cymru. Bellach, ceir 40 llwybr allan o Rosslare ac maen nhw'n mynd yn syth i'r Undeb Ewropeaidd, i'r farchnad sengl, er gwaethaf y ffaith ei bod hi'n cymryd mwy o amser i wneud hynny a'i bod yn ddrytach gwneud hynny. Ond maen nhw'n gwneud hynny oherwydd y rhwystrau i fasnachu y maen nhw'n eu hwynebu bellach pan fyddan nhw'n anfon nwyddau trwy borthladdoedd Cymru ac ymlaen i'r Undeb Ewropeaidd drwy Dover.
O ran cyffro Prif Weinidog y DU o greu sefyllfa i Ogledd Iwerddon lle mae ganddyn nhw fynediad at farchnad sengl y DU a marchnad sengl yr UE, cefais fy nhemtio i ysgrifennu ato yn gofyn iddo a allai ddod o hyd i'r un manteision i Gymru hefyd, oherwydd mae'n eironi llwyr y dylai ddathlu rhywbeth y gweithiodd ef ei hun mor galed i'w atal i weddill y Deyrnas Unedig.
Mae Joyce Watson yn gofyn beth ellid ei wneud gan Lywodraeth y DU. Mae pethau syml y gallen nhw eu gwneud, Llywydd, a fyddai'n gwella rhagolygon masnachu di-rwystr rhwng porthladdoedd Cymru a'n cymydog pwysicaf ac agosaf. Gallen nhw, er enghraifft, ddod i gytundeb milfeddygol gyda'r UE. Byddai hynny'n cael gwared yn llwyr ar yr angen am archwiliadau iechydol a ffytoiechydol ym mhorthladdoedd Cymru. Rydym ni wedi masnachu'n llwyddiannus â nwyddau yn dod o Weriniaeth Iwerddon trwy Gymru ers 50 mlynedd heb fod angen i archwiliadau o'r fath fod yn weithredol. Byddai Llywodraeth y DU synhwyrol yn dod i gytundeb milfeddygol a byddem ni yn ôl lle'r oeddem ni cyn, i ddyfynnu'r Financial Times ddoe, i ffolineb Brexit gael ei orfodi arnom ni.