Porthladdoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:01, 7 Mawrth 2023

Does yna ddim amheuaeth o gwbl bod Brexit, wrth gwrs, wedi bod yn niweidiol iawn i borthladd Caergybi. Un ddadl gref dros roi dynodiad porthladd rhydd i Gaergybi, wrth gwrs, ydy bod dynodiad eisoes wedi cael ei roi i Lerpwl, lle mae'n bosibl hwylio'n uniongyrchol i Ogledd Iwerddon, a'r ofn ydy bod y dynodiad hwnnw yn rhoi mantais annheg i Lerpwl dros Gaergybi.

Ond yn edrych i'r hirdymor, un bygythiad arall i Gaergybi ydy cyflwr y morglawdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eiddgar i ddangos cefnogaeth i fuddsoddi mewn cynnal a chadw a thrwsio'r morglawdd, mae Stena wedi dangos eu bod nhw'n barod i fuddsoddi hefyd, ond mae yna drydydd parti—Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydy hwnnw. Felly, all y Prif Weinidog yn gyntaf gadarnhau cefnogaeth barhaol Llywodraeth Cymru i wneud y buddsoddiad hwnnw, a rhoi diweddariad ar y trafodaethau sy'n mynd ymlaen rhwng y Llywodraeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yma'n gallu digwydd er mwyn rhoi'r dyfodol llewyrchus hirdymor hwnnw i'r porthladd yng Nghaergybi?