Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd, ac fe fyddaf yn siarad am fy ngwelliannau i. Er mwyn cryfhau tryloywder ac atebolrwydd, mae'n gwbl briodol, yn fy meddwl i, bod gofyn i'r undebau llafur hynny sydd wedi ethol aelodau i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol ddatgan fel rhan o achos y cyngor p'un a ydyn nhw'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol ai peidio. Nid yw'r gwelliant hwn yn torri unrhyw gyfrinachedd a bydd yn sicrhau bod cyfarfodydd y cyngor yn gwbl dryloyw. Dyma, wedi'r cyfan, yw un o'r prif bolisïau mae'r undebau llafur wedi galw amdanynt dro ar ôl tro. Diolch.